Food Cardiff loading now
Kasim Ali outside Waterloo Tea in Wyndham Arcade Cardiff

Annog Busnesau Yng Nghanol Y Ddinas I Weithredu Er Mwyn Helpu Caerdydd I Ddod Yn Un O Ddinasoedd Mwyaf Cynaliadwy’r DU

Mae busnesau yng nghanol Caerdydd yn cael eu hannog i weithredu er mwyn helpu Caerdydd i ddod yn un o’r lleoedd mwyaf cynaliadwy yn y DU erbyn 2024.

Y llynedd, dyfarnwyd statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Gaerdydd – y lle cyntaf yng Nghymru (ac un o ddim ond chwe lle yn y DU) i ennill y teitl mawreddog; mae’r cynllun yn seiliedig ar gyflawniadau efydd, arian ac aur yn ymwneud â chwe mater bwyd cynaliadwy allweddol.

Nawr, mae busnesau annibynnol, sefydliadau’r trydydd sector, a sefydliadau mawr yng nghanol y ddinas yn cael eu hannog i ymuno, a helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy erbyn y flwyddyn 2024.

Mae’r ymgyrch yn cael ei chydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth bwyd y ddinas sy’n tyfu’n gyflym ac sydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith dinas gyfan deinamig a chynhwysol.

Mae pecyn cymorth newydd sy’n dangos sut y gall busnesau o bob maint ac o bob sector yng nghanol y ddinas gymryd rhan wedi’i greu gyda chymorth cyllid o Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd am Byth.

Gan ddefnyddio’r pecyn cymorth, bydd busnesau’n cael eu hannog i ymrwymo i gamau gweithredu sy’n cyfrannu at economi bwyd lleol ffyniannus, a ddiffinnir fel un lle mae gan bawb fynediad at fwyd sy’n iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.

Ymhlith yr addewidion y mae busnesau lletygarwch yn cael eu hannog yn benodol i’w cymryd mae:

Yn y cyfamser, gall busnesau o unrhyw sector addunedu i wneud rhai o’r canlynol neu bob un ohonynt:

Bydd astudiaethau achos ar sianeli Bwyd Caerdydd yn amlygu sut y mae rhai busnesau eisoes yn paratoi’r ffordd; mae’r cyntaf yn edrych ar sut y mae entrepreneur lleol a pherchennog busnes lletygarwch Kasim Ali wedi ymgorffori cynaliadwyedd yn ei fusnesau.

Bydd astudiaethau achos eraill yn amlygu’r ffyrdd y gall busnesau heblaw busnesau bwyd – gan gynnwys sefydliadau corfforaethol – chwarae eu rhan i greu dinas fwyd fwy cynaliadwy.


Astudiaeth Achos: Waterloo Tea a Wyndham Cafeteria

Mae Waterloo Tea a Wyndham Cafeteria yn ddau gaffi annibynnol yng nghanol y ddinas sydd wedi’u lleoli yn Arcêd Wyndham yng nghanol Caerdydd.

Mae prynu’n lleol wedi bod yn elfen allweddol o’r ddau fusnes erioed; defnyddir cyflenwyr o Farchnad Ganolog Caerdydd i greu’r fwydlen yn Wyndham Cafeteria; ac mae llu o gyflenwyr cynaliadwy o Dde Cymru yn gysylltiedig â chreu’r prydau yn Waterloo Tea – o fecws Alex Gooch, i Windsor Fruit & Veg, a Chastell Howell. Yn ogystal, mae Waterloo Tea a Wyndham Cafeteria wedi’u hardystio’n gyflogwyr Cyflog Byw.

Eglurodd y sylfaenydd a’r perchennog Kasim Ali, “I ni, mae mwy i redeg busnes bwyd cynaliadwy na dim ond y bwyd rydym yn ei roi ar y platiau, mae’n ymwneud â gofalu am y staff hefyd; rydym bob amser wedi talu mwy na’r isafswm cyflog, ond roeddem am ffurfioli hyn. Mae gofalu am ein staff yn rhan o’r darlun cynaliadwyedd hwnnw.”

Mae Kas hefyd yn aelod gwirfoddol o fwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar gyfeiriad strategol y bartneriaeth, gan gynnig arweiniad ar sut i ddatblygu a gwella ei llwyddiant ymhellach.

To read the full case study, click here.

Dywedodd Adrian Field o Caerdydd am Byth, “Sefydlwyd Cronfa Uchelgais y Ddinas i helpu i wireddu uchelgeisiau ein cynllun busnes 2021-26, gan gynnwys helpu busnesau Caerdydd i drosglwyddo i’r economi werdd, a sicrhau bod canol y ddinas yn dod yn gyrchfan hamdden agored a hygyrch y bydd pobl yn ei dewis. Roeddem yn falch iawn o gefnogi Bwyd Caerdydd, i’w helpu i gyrraedd ei nod o wneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU, sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r uchelgeisiau hynny.”

Mae Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy “Bwyd Caerdydd, yn credu bod y bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid dim ond ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Rydym yn gyffrous iawn o weld rhai o fusnesau mwyaf adnabyddus canol dinas Caerdydd yn cefnogi’r ymgyrch hon – ac yn addo cymryd camau a fydd yn gwella’r system fwyd leol i bawb.”

Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n anelu at ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.

Mae bwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd hefyd yn cynnwys deg aelod gwirfoddol o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a Phrifysgol Caerdydd yn ogystal â llu o rai eraill.

Drwy’r rhwydwaith hwn, mae Bwyd Caerdydd yn ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf y dydd.