

CYMRYD RHAN
Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd.
Gweledigaeth ein strategaeth newydd uchelgeisiol yw mai Caerdydd fydd un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.
Mae angen i bawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Chaerdydd gymryd rhan


YMUNWCH Â’R MUDIAD
Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr, felly cymerwch ran.
Y NEWYDDION DIWEDDARAF



Crynodeb o Ŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd
Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd, yn ôl y grwpiau bwyd, tyfu a chymunedol a drefnodd y digwyddiadau.



Pasture yw’r Bwyty Annibynnol Cyntaf yng Nghymru i gael 3* gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy
Ethos grŵp Bwyty Pasture yw defnyddio cynhyrchion lleol, hyrwyddo bwyd yn ei dymor a dileu gwastraff bwyd ac yn sgil hynny mae wedi ennill Gradd 3* ‘Food Made Good’ y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy – sy’n golygu mai Pasture yw’r bwyty annibynnol cyntaf yng Nghymru i gael yr achrediad arbennig hwn.



Bwyd Caerdydd yn gweithio i gael mwy o lysiau o Gymru i ysgolion yng Nghymru
Mae Bwyd Caerdydd yn cefnogi cynllun peilot i ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd mewn ysgolion – gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau.