Food Cardiff loading now

Cynnig grantiau i ddod â chymunedau ynghyd ar gyfer Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd i’r ddinas ym mis Medi ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol er mwyn eu helpu i gymryd rhan.

Drwy gydol y mis, cynhelir gweithgareddau am ddim mewn cymdogaethau ar draws y ddinas gan ddechrau gydag Ardal Bwyd Da Caerdydd bwrpasol i groesawu’r 25,000 o ymwelwyr sy’n mynychu Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan.

Mewn partneriaeth â C3SC, mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau bach o hyd at £200 i alluogi grwpiau dielw i gynnal digwyddiadau neu weithgareddau fel rhan o’r ŵyl. Gall unrhyw un wneud cais cyn belled â bod y digwyddiad yn hyrwyddo 5 Nod ar gyfer Bwyd Da Bwyd Caerdydd sy’n cefnogi cais y ddinas i ddod yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy’r DU.

Yn rhan o strategaeth bwyd da ar gyfer y ddinas gyfan, mae’r Nodau Bwyd Da yn ceisio sicrhau bod gan bobl fynediad i fwyd iach a chynaliadwy a bod gan Gaerdydd fudiad bwyd sy’n grymuso pobl, economi fwyd leol ffyniannus a system fwyd deg, gydgysylltiedig.

Bob blwyddyn ers 2021, mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd wedi bod yn dathlu’r mwynhad a geir yn sgil tyfu, coginio a rhannu bwyd da. Dros y pedair gŵyl, mae tua 50 o sefydliadau sy’n aelodau o Bwyd Caerdydd wedi cymryd rhan, gan gynnal dros 100 o ddigwyddiadau a chroesawu bron i 8,000 o bobl. Rhannwyd mwy na 2,000 o brydau bwyd a dosbarthwyd mwy na 5,000 o blanhigion a phecynnau hadau.

Dros y pedair Gŵyl Hydref flaenorol, mae Bwyd Caerdydd wedi sicrhau. ac, mewn partneriaeth â C3SC, wedi dosbarthu £10,000 mewn grantiau bach i gefnogi grwpiau i gynnal gweithgareddau.

Dywedodd Cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello:

“Ein ffocws eleni, ar gyfer ein holl ddigwyddiadau, yw dathlu’r cyfoeth o gynnyrch tymhorol. Mae’r cynhaeaf yn gyfle gwych i ddod â phobl ynghyd i ailgysylltu â chynnyrch tymhorol, cynaliadwyedd a blas gwych yr hyn y maent yn ei goginio, yn ei fwyta ac yn ei dyfu.

“Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod heriol, felly rydym yn awyddus iawn i weld cymaint o sefydliadau â phosibl yn manteisio ar ein cynllun grantiau i gynnal digwyddiad bwyd neu dyfu bwyd, ac i deimlo’n rhan o’r mudiad bwyd da cyffredinol yng Nghaerdydd.

“Eleni, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn digwyddiadau neu weithgareddau a fydd yn helpu i ddod â chymunedau, cymdogaethau neu aelwydydd at ei gilydd drwy fwyd – yn ddelfrydol, digwyddiadau sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â’r bobl a fydd yn elwa ohonynt ac sy’n cynnwys ystod amrywiol o gymunedau ledled Caerdydd,” meddai.

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau dielw wneud cais am raglen grantiau bach Bwyd Caerdydd ar sail dreigl tan 19 Gorffennaf yn foodcardiff.com. Ochr yn ochr â’r grantiau, gall Bwyd Caerdydd hefyd gynnig cymorth i hyrwyddo digwyddiadau, cysylltu â sefydliadau rhwydwaith eraill a darparu adnoddau ar gyfer gwerthuso ar ôl y digwyddiad.

Gall unrhyw sefydliad, p’un a yw wedi cael grant ai peidio, gyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiad perthnasol drwy wefan Bwyd Caerdydd i’w gynnwys yn yr ŵyl.


GWNEUD CAIS

Gwybodaeth grant

Telerau ac Amodau’r Grant


Mae Bwyd Caerdydd yn cynnal sesiynau ar-lein ar gyfer grwpiau cymunedol i’ch helpu i gymryd rhan. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i chi ddarganfod mwy am Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a pha gymorth sydd ar gael gan Bwyd Caerdydd. Bydd hefyd yn gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau, cael ysbrydoliaeth a syniadau ar gyfer digwyddiadau a chwrdd â grwpiau a sefydliadau eraill a allai gymryd rhan neu sydd â diddordeb mewn cydweithio.

Briff a Chwestiynau Cyffredin Gŵyl Fwyd yr Hydref Bwyd Da Caerdydd: Sesiwn 1 – 18 Mehefin am 12-12.45pm: Cofrestwch

Briff a Chwestiynau Cyffredin Gŵyl Fwyd yr Hydref Bwyd Da Caerdydd: Sesiwn 2 – 18 Mehefin am 5.30-6.15pm: Cofrestwch