Food Cardiff loading now

Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn.

Buom yn gweithio gydag unigolion, sefydliadau a chymunedau o bob rhan o’r ddinas i ddatblygu Strategaeth Bwyd Da – ein map tuag at sicrhau bod Caerdydd yn dod yn un o’r Lleoedd Bwyd Cynaliadwy gorau yn y DU.

Fe wnaethom ofyn i bobl beth fydden nhw’n hoffi ei newid o ran sut mae ein system fwyd yn gweithio yn y ddinas a beth oedd yr heriau mawr yr oedd angen i ni eu goresgyn.

Cymerodd miloedd o bobl ran yn y sgyrsiau hynny a arweiniodd at ddatblygu ein 5 Nod Bwyd.

I ddarganfod mwy, cliciwch ar bob Nod i weld sut y gallwch addunedu i weithredu.

CAERDYDD IACH

Rydym am sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon, iach sy’n ddiwylliannol briodol, a’u bod yn gallu dewis a fforddio bwyd o’r fath.

Gwneud adduned

CAERDYDD AMGYLCHEDDOL GYNALIADWY

Rydym am i’r ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei brynu a’i fwyta fod o fudd i natur, mynd i’r afael â

Gwneud adduned

MUDIAD BWYD GRYMUSOL

Rydym am weld ein cymunedau’n cydweithio i lunio system fwyd leol, ac i bobl gael cyfleoedd i ddysgu sgiliau tyfu, coginio a maeth a’u

Gwneud adduned

ECONOMI FWYD LEOL FFYNIANNUS

Rydym am i fusnesau bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a gwydn fod wrth wraidd ein heconomi leol, gyda phobl sy’n gweithio yn y sector hwn

Gwneud adduned

SYSTEM FWYD DEG A CHYSYLLTIEDIG

Rydym am weld materion ac atebion sy’n ymwneud â bwyd yn cael eu cynnwys ar draws yr holl bolisïau lleol a gweld pobl yn

Gwneud adduned