Food Cardiff loading now

Mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Ond mae hefyd yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd.

Mae bwyta deiet cytbwys yn rhan bwysig o gadw’n iach a gwneud yn siŵr ein bod yn cael y swm a argymhellir o ffrwythau a llysiau bob dydd. Nid yw bob amser yn hawdd cael gafael ar fwyd iach, ond mae digon o ffyrdd y gallwn ddechrau gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn bwyta.

Boed yn gymryd camau i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud deiet iach, fel cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau yn eich prydau, neu anelu at goginio pryd cartref yn amlach – gall camau bach, ymarferol wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd.

If you would like to take things further, you could start exploring the good food activities in your local community, or even think about setting up your own local food project or cooperative.

Ac nid yw’n ymwneud â chamau gan unigolion yn unig; gall busnesau gymryd rhan hefyd. Gall busnesau lletygarwch a gwasanaethau bwyd chwarae eu rhan hefyd, er enghraifft, drwy gynyddu faint o ffrwythau a llysiau sydd ym mhob pryd a weinir. A gallai unrhyw fusnes ymrwymo i gynnig byrbrydau iachach i weithwyr drwy gydol y diwrnod gwaith.

Gallwn i gyd gael effaith o ran coginio a bwyta i sicrhau gwell iechyd yng Nghaerdydd.