Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae prosiect manwerthu bwyd cymunedol yn fenter ddielw, elusennol neu gymdeithasol sydd â’i gwreiddiau mewn cymuned leol, gyda chenhadaeth gymdeithasol gref i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â bwyd. Gall y rhain gynnwys Oergelloedd Cymunedol, Pantrïoedd, Clybiau Prynu a Chydweithfeydd.

Caiff cydweithfeydd bwyd eu rhedeg gan wirfoddolwyr o’r gymuned, mae rhai o bob lliw a llun i’w cael mewn amrywiaeth o leoliadau, – canolfannau cymunedol, ysgolion, prifysgolion, neuaddau eglwys neu weithleoedd. Yn wahanol i fanciau bwyd, nid dim ond ar gyfer pobl sy’n wynebu argyfwng bwyd mae Cydweithfeydd Bwyd. Gall unrhyw un eu defnyddio.

Gallwch arbed hyd at £220 y flwyddyn ar eich bil siopa o gymharu â siopa mewn archfarchnadoedd. Mae bagiau o ffrwythau a llysiau fel arfer yn costio rhwng £2 a £4 – ac yn aml mae opsiynau i brynu wyau, cig, pysgod a bara hefyd.

Daw cynnyrch a werthir drwy gydweithfeydd bwyd yn uniongyrchol gan gyflenwyr lleol megis ffermwyr, manwerthwyr neu gyfanwerthwyr, sy’n dewis ffrwythau a llysiau ffres yn ôl eu tymor, eu hargaeledd a’u gwerth. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig cymysgedd o ffrwythau, llysiau a/neu fwydydd cyflawn (reis, ffa, cnau, blawd, ac ati) ac maent yn aml yn cynnig cyfle i gwtogi ar ddeunydd pacio diangen, yn ogystal â chyfle i wella mynediad at fwyd fforddiadwy.

Yn yr un modd, mae Clybiau Bwyd yn darparu ffordd i bobl gael mynediad at fwyd o ansawdd da gan gymryd bwyd dros ben gan fanwerthwyr a allai fod wedi mynd yn wastraff a’i ddarparu i aelodau o glybiau lleol am brisiau isel. Bellach mae gan Gaerdydd sawl Pantri cymunedol sy’n rhannu bwyd ffres, bwyd wedi’i rewi ac eitemau cwpwrdd storio lle y gall yr aelodau gael basged o fwyd gwerth tuag £20 am ddim ond £5 wythnos, er enghraifft. Mae rhai hefyd yn cynnig nwyddau’r cartref a phethau ymolchi.

Mae Oergelloedd Cymunedol ar agor i unrhyw un sydd eisiau rhannu bwyd nad ydyn nhw’n mynd i’w ddefnyddio – a gall unrhyw un sydd ei angen ei gymryd. Maen nhw’n cynnal y safonau hylendid bwyd uchaf felly mae rhai rheolau ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei roi ynddynt, ond mae’r rhwydwaith Oergelloedd Cymunedol yn achub bwyd o ansawdd da gan fanwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, bwytai a chartrefi. Maen nhw’n ailddosbarthu bwyd, yn lleihau gwastraff ac yn helpu’r gymuned i rannu sgiliau drwy wirfoddoli.

Gall prosiectau bwyd lleol hefyd eich helpu i gysylltu â’r gymuned. Gallech hefyd ystyried gwirfoddoli eich sgiliau neu amser i brosiect lleol, neu ddarganfod sut i gyfrannu bwyd. Mae rhai clybiau bwyd a chydweithfeydd hefyd yn caniatáu i chi brynu bwyd i berson mewn angen.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar yr adnoddau isod.