Food Cardiff loading now

Credwn fod gan bawb yr hawl i fwyd da Un o’n Nodau Bwyd Da allweddol ar gyfer y ddinas yw sicrhau bod gan bawb; fynediad at fwy dmathlon, iach sy’n ddwiylliannol brodol au bod yn gallu dewis a fforddio bwyd o’r fath.

Ond os ydych yn cael trafferth fforddio bwyd neu gael gafael arno, mae nifer o systemau ar waith i helpu, ac rydym yn cyfeirio atynt isod.

  • Ffoniwch Linell Gynghori Cyngor Caerdydd 029 2087 1071 neu cysylltwch ag advicehub@Cardiff.gov.uk
  • I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Ariannol

Prosiectau Bwyd Cymunedol a Phantrïoedd

Gall llawer o sefydliadau yn y gymuned helpu gyda chael gafael ar fwyd. Noder y gall capasiti’r rhain fod yn gyfyngedig

  • Trelái a Chaerau: Mae ACE yn rhedeg Pantri Dusty Forge fel gwasanaeth danfon bwyd yn Nhrelái a Chaerau. I weld a oes aelodaeth ar gael, cysylltwch â nhw dros y ffôn – 02920 003132. Mae’r danfoniadau’n amodol ar argaeledd ac yn gyfyngedig i un ddarpariaeth fesul cartref bob wythnos.
  • Glan yr Afon, Treganna, Grangetown: Mae Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon wedi lansio Pantri Wyndham St. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Your Local Pantry.
  • Sblot: Mae Cydweithfa Fwyd Splo-down yn cynnig bocsys cymorth llawn llysiau am ddim, ynghyd â bocsys llysiau am bris isel ac eitemau hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Splo-down.org.
  • Os ydych yn cael trafferth bwydo eich anifeiliaid anwes, gall y Gwasanaeth Banc Bwyd Anifeiliaid Anwes helpu

Gallwch hefyd chwilio am eich pantri lleol ar wefan Your Local Pantry.

Banc Bwyd Caerdydd

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac yn wynebu argyfwng ariannol, efallai y bydd Banc Bwyd Caerdydd yn gallu eich helpu. Bydd y banc bwyd yn gallu rhoi parsel bwyd brys i chi a’ch teulu a fydd yn para rhwng 3 a 5 diwrnod.

I gael gafael ar barsel bwyd gan Fanc Bwyd Caerdydd mae angen taleb arnoch. Methu fforddio bwyd yw’r prif reswm o hyd dros gael taleb banc bwyd; mae’r penderfyniad yn seiliedig ar eich amgylchiadau ariannol adeg yr asesiad.

I gael taleb, holwch unrhyw asiantaeth yr ydych eisoes yn ymwneud â hi, fel cymdeithas dai, ymwelydd iechyd, gweithiwr cymorth, y gwasanaeth prawf neu eraill i weld a allan nhw roi un o’n talebau i chi.

Gellir cyfnewid taleb yn un o’r canolfannau banciau bwyd ledled y ddinas. I gael rhestr o’n lleoliadau diweddaraf ac amseroedd agor, ewch i Wefan y Banc Bwyd.

I gael rhagor o gyngor a chymorth, ffoniwch hybiau Cyngor Caerdydd ar 029 2089 1071 i drefnu apwyntiad.