Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae llawer o ffyrdd y gall y ffordd rydych chi’n siopa gael effaith gadarnhaol ar eich cymuned leol:

  • Mae siopa gyda busnesau lleol yn golygu bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn lleol
  • Rydych yn cefnogi busnesau bach sy’n creu swyddi lleol ac yn cadw ein strydoedd mawr i ffynnu
  • Mae gennym lawer o siopau bwyd arbenigol sy’n cynrychioli bwyd o bob cwr o’r byd – ffordd wych o ehangu eich gorwelion bwyd
  • Drwy siopa mewn marchnadoedd gallwch gael gafael ar y bwyd mwyaf ffres. Yn aml bydd ffrwythau a llysiau wedi cael eu casglu y diwrnod hwnnw.
  • Mae prynu’n uniongyrchol gan dyfwyr a chynhyrchwyr yn golygu eich bod yn gwybod o ble mae eich bwyd yn dod – byddant yn aml yn rhoi cyngor gwych i chi ar sut i’w baratoi, ei storio a’i goginio
  • Mae siopa gyda chyflogwyr Cyflog Byw yn golygu bod pawb yn cael bargen deg a hefyd yn helpu i gefnogi eich economi leol
  • Mae prynu gan fenter gymdeithasol yn golygu bod eich arian hefyd yn cefnogi’r gwaith cymunedol y maen nhw’n ei wneud
  • Yn gynyddol, mae manwerthwyr ar-lein yn cynnig cynnyrch ffres a dyfir yn lleol gan ei gwneud hyd yn oed yn haws i siopa
  • Gall prynu bwyd a gynhyrchir yn lleol leihau milltiroedd bwyd ac, os yw’n organig, mae’n golygu ei fod o fudd i’n pridd, ein bywyd gwyllt a’n pobl
  • Gall chwilio am siop ddiwastraff, neu brynu cynnyrch rhydd o farchnadoedd a siopau bwyd cyflawn leihau’n fawr faint o ddeunydd pacio a ddefnyddiwch

Dilynwch y dolenni isod i ddod o hyd i leoedd yng Nghaerdydd er mwyn helpu’ch cymuned drwy’r bwyd rydych chi’n ei brynu:

MARCHNADOEDD

SIOPAU AIL-LENWI

BWYDYDD RHYNGWLADOL

MANWERTHWYR AR-LEIN

MANWERTHWYR ANNIBYNNOL