Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae prosiect manwerthu bwyd cymunedol yn fenter ddielw, elusennol neu gymdeithasol sydd â’i gwreiddiau mewn cymuned leol, gyda chenhadaeth gymdeithasol gref i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â bwyd. Gall y rhain gynnwys Oergelloedd Cymunedol, Pantrïoedd, Clybiau Prynu a Chydweithfeydd.

Mae mwy a mwy o gymunedau yn sefydlu cydweithfeydd bwyd. Maen nhw’n rhoi’r pŵer yn ôl yn nwylo cymunedau, gan alluogi pobl i gael mynediad at fwyd da am brisiau fforddiadwy, tra’n cael mwy o reolaeth dros y lle y daw eu bwyd ohono. Yn bennaf, maen nhw’n prynu ac yn ailddosbarthu bwyd da a’i wneud yn fforddiadwy, ac yn cryfhau ein cysylltiadau cymunedol ar yr un pryd.

Mae cydweithfeydd bwyd o bob lliw a llun ar gael a hynny mewn amrywiaeth o leoliadau, – canolfannau cymunedol, ysgolion, prifysgolion, neuaddau eglwys neu weithleoedd. Yr allwedd i gydweithfa fwyd lwyddiannus yw darparu cynnyrch o ansawdd uchel am bris fforddiadwy.

Mae’r rhan fwyaf o gydweithfeydd bwyd yn cynnig cymysgedd o ffrwythau, llysiau a/neu fwydydd cyflawn (reis, ffa, cnau, blawd, ac ati) ac maen nhw’n aml yn cynnig cyfle i gwtogi ar ddeunydd pacio diangen, yn ogystal â chyfle i wella mynediad at fwyd fforddiadwy.

Yn yr un modd, mae Clybiau Bwyd yn darparu ffordd i bobl gael mynediad at fwyd o ansawdd da gan gymryd bwyd dros ben gan fanwerthwyr a allai fod wedi mynd yn wastraff a’i ddarparu i aelodau o glybiau lleol am brisiau isel. Bellach mae gan Gaerdydd sawl Pantri cymunedol sy’n rhannu bwyd ffres, bwyd wedi’i rewi ac eitemau cwpwrdd storio lle y gall yr aelodau gael basged o fwyd gwerth tuag £20 am ddim ond £5 wythnos, er enghraifft. Mae rhai hefyd yn cynnig nwyddau’r cartref a phethau ymolchi.

Mae Oergelloedd Cymunedol ar agor i unrhyw un sydd eisiau rhannu bwyd nad ydyn nhw’n mynd i’w ddefnyddio – a gall unrhyw un sydd ei angen ei gymryd. Maen nhw’n cynnal y safonau hylendid bwyd uchaf felly mae rhai rheolau ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei roi ynddynt, ond mae’r rhwydwaith Oergelloedd Cymunedol yn achub bwyd o ansawdd da gan fanwerthwyr, cynhyrchwyr, tyfwyr, bwytai a chartrefi. Maen nhw’n ailddosbarthu bwyd, yn lleihau gwastraff ac yn helpu’r gymuned i rannu sgiliau drwy wirfoddoli.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu cydweithfa fwyd neu brosiect bwyd cymunedol arall, edrychwch ar yr adnoddau isod.