Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae bwyta’n iach yn hanfodol ar gyfer iechyd da ac yn cyfrannu at lesiant cadarnhaol. Mae llawer o brif achosion afiechyd – megis clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2, rhai mathau o ganser, salwch meddwl ac osteoporosis – yn gysylltiedig â maeth gwael.

Mae’r gweithle yn fan pwysig lle y gall pobl gynyddu faint o fwydydd iach y maen nhw’n eu bwyta er lles eu hiechyd, er mwyn gwella ymdeimlad o lesiant, a’u diogelu rhag salwch.

Mae deiet iach a chytbwys hefyd yn helpu pobl i wella’n gyflymach o salwch, felly mae’n gwneud synnwyr masnachol cadarn hefyd.

Yn ogystal â chael effaith ar ein corff, mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta, a’r hyn rydyn ni’n ei yfed yn gallu cyfrannu at ein hiechyd meddwl hefyd, gan arwain at lefelau uwch o ganolbwyntio, bywiogrwydd meddwl a’r gallu i ymdopi â phwysau a straen o ddydd i ddydd.

Er mwyn cefnogi eich staff (ac ymwelwyr â’ch sefydliad) a gwella eu cyfleoedd i gael bwyd iach, gallech:

  • Gyfnewid y bisgedi a’r danteithion melys sy’n cael eu darparu am ddim am fasged ffrwythau ffres, gan gyflenwr lleol
  • Dewis arlwywyr a lleoliadau digwyddiadau sy’n gallu darparu dewisiadau cynaliadwy, cytbwys ac iach
  • Cyfnewid y peiriant oeri dŵr a/neu ddiodydd pefriog am opsiwn cynaliadwy; buddsoddi mewn dyfais carboneiddio i wneud dŵr tap pefriog yn ôl y galw
  • Trefnu cinio tîm wythnosol mewn lleoliad sy’n gweini opsiynau iach, neu annog y staff i ddod â phrydau cartref i mewn i’w rhannu
  • Cofiwch y dylai digwyddiadau ‘ar ôl gwaith’ gynnig dewisiadau iach i bobl hefyd

Am syniadau eraill i hybu bwyta’n iach yn y gweithle, edrychwch ar yr adnoddau isod.