Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae prynu’n lleol yn helpu i gadw arian yn cylchredeg yn eich economi leol, gan gefnogi swyddi a busnesau annibynnol eraill.

Fel busnes, efallai y bydd llawer o gyfleoedd i chi gwtogi eich cadwyni cyflenwi bwyd a diod a chefnogi cwmnïau lleol. and support local companies. O feddwl amdano, mae’n debyg bod mwy o ffyrdd y gallech wneud gwahaniaeth nag ar yr olwg gyntaf, er enghraifft:

  • Prynu te a choffi ar gyfer cegin y staff gan fenter gymdeithasol
  • Prynu brechdanau ar gyfer cinio o siop frechdanau leol yn hytrach na’r archfarchnad
  • Gweithio gyda’ch contractwyr arlwyo i sicrhau eu bod yn defnyddio busnesau lleol, cynaliadwy
  • Defnyddio busnes cymdeithasol i gyflenwi eich anghenion arlwyo ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau
  • Dewis lleoliadau lleol, annibynnol ar gyfer ciniawau gwaith, cynadleddau a chyfarfodydd
  • Rhoi stoc o fyrbrydau a diodydd gan gwmnïau o Gymru yn eich peiriannau gwerthu

Yn ogystal â’r hwb economaidd y byddwch yn ei roi i bobl annibynnol leol, byddwch hefyd yn lleihau’r angen i gludo bwyd mor bell a’i storio cyhyd, gan arbed ynni a chwtogi ar allyriadau.

Ac os ydych hefyd yn defnyddio un o fusnesau cymdeithasol Caerdydd, byddwch hefyd yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned.

Gall fod yn anodd dod o hyd i gyflenwyr lleol – gall rhwydweithio drwy Bwyd Caerdydd helpu – felly mae Arloesi Bwyd Cymru wedi creu cyfeirlyfr o dros 600 o gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn cyhoeddi cyfeirlyfr o fusnesau cymdeithasol, gan gynnwys nifer yn y sectorau lletygarwch a bwyd.