Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae coginio prydau cartref wedi dod yn boblogaidd unwaith eto ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, diolch i raddau helaeth i gyfyngiadau’r pandemig a’r cyfnodau clo dilynol.

Mae hyn wedi dod â theuluoedd at ei gilydd – ond yn ogystal â’r manteision cymdeithasol, gwelwyd manteision i iechyd hefyd; mae astudiaethau wedi dangos nid yn unig bod plant yn coginio ac yn pobi gartref yn amlach yn ystod y pandemig, ond bod gan rieni a oedd yn cynnwys eu plant mewn gweithgareddau coginio yn amlach ddeiet o ansawdd uwch.

Mae coginio prydau cartref yn rhoi’r rhyddid i chi ddewis yn union beth sy’n mynd i mewn i’ch prydau, heb unrhyw bethau annisgwyl cudd. Gall eich helpu i siopa’n fwy darbodus, osgoi gwastraff bwyd, ac i lawer o bobl, mae’n cynrychioli sianel greadigol, a ffordd o arafu mewn byd sy’n symud yn gyflym. Er mwyn coginio pryd cartref, mae’n ofynnol i chi ganolbwyntio ar y dasg dan sylw yn unig.

Gall yr adnoddau isod eich helpu i ddechrau coginio prydau cartref, a’i wneud yn rhan o’ch trefn wythnosol.