Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Bwyd da yw bwyd sy’n dda i chi, yn dda i’r blaned ac yn dda i’r economi leol. Ac mae bwyd da hyd yn oed yn well pan gaiff ei rannu.

Er gwaetha’r’ ffaith na fu’n bosibl i ni ddod at ein gilydd ar gyfer digwyddiadau cymunedol cymaint ag arfer dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ymchwil diweddar gan YouGov yn dangos bod bondiau cymdeithasol yn gryfach na chyn y pandemig; dywedodd 40% o bobl fod ganddynt ymdeimlad cryfach o gymuned leol.

Mae’n amser perffaith i ddarganfod rhai o’r gweithgareddau bwyd iach sy’n digwydd yn eich cymuned, a gwneud cysylltiadau newydd drwy fwyd. Er enghraifft:

  • Mae digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy fwyd.
  • Mae Bwyd a Hwyl yn rhaglen aml-asiantaeth sydd wedi ennill sawl gwobr i ddarparu prydau o ansawdd da, sgiliau maeth, addysg chwaraeon a gweithgareddau gwella gwyliau’r haf i blant yng Nghymru. Siaradwch â’ch ysgol i weld a yw’n cymryd rhan.
  • Mae Edible Cardiff wedi creu canllaw defnyddiol i bob un o’r grwpiau tyfu lleol yn y ddinas
  • Mae gweithdai bwyd Green Squirrel yn ymdrin â llawer o themâu cynaliadwy, o gael sbort gyda’ch sbarion ac ymchwilio i ddewisiadau bwyd carbon isel, i dyfu eich bwyd eich hun neu gadw ieir neu wenyn.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar yr adnoddau isod.