Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Ond mae hefyd yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd.

O ran iechyd y cyhoedd, mae bwyta deiet cytbwys yn rhan bwysig o gadw’n iach a gwneud yn siŵr ein bod yn cael y swm a argymhellir o ffrwythau a llysiau bob dydd. Nid yw bob amser yn hawdd cael gafael ar fwyd iach, ond mae digon o ffyrdd y gallwn ddechrau gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn bwyta.

Boed yn cymryd camau i ddysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud deiet iach, cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau yn eich prydau, neu ymrwymo i goginio o’r dechrau’n amlach – buan iawn y gall camau bach, o’u cymryd gyda’i gilydd, wneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd.

Gall bwyta deiet iach a chytbwys eich helpu i deimlo’n dda a gwneud yn siŵr bod gennych yr holl faetholion sydd eu hangen arnoch.

Mae Canllaw Bwyta’n Dda y GIG yn dangos beth yw deiet iach a chytbwys. Yr egwyddorion sylfaenol yw:

  1. Bwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd.
  2. Bwyta ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill (gan gynnwys 2 ddogn o bysgod bob wythnos, un ohonynt yn bysgod olewog, gyda rhai cynhyrchion llaeth neu gynnyrch llaeth amgen (fel diodydd soia), gan ddewis opsiynau sy’n cynnwys llai o fraster a siwgr.
  3. Seilio eich prydau ar datws, bara, reis, pasta a charbohydradau startslyd eraill; dewis fersiynau grawn cyflawn lle bo modd.
  4. Yfed digon o hylif. Bydd cael diodydd rheolaidd drwy gydol y dydd yn eich helpu i osgoi dadhydadu. Dylai menywod fod yn yfed 1.6 litr o hylif a dynion 2 litr o hylif y dydd. Cyfyngwch sudd ffrwythau a/neu smwddis i gyfanswm o 150ml y dydd.

I ddarganfod mwy, edrychwch ar yr adnoddau isod.