Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Er bod y neges 5-y-dydd wedi cael ei chyfleu’n eang ers y nawdegau cynnar, ac yr amcangyfrifir bod hyd at 90% o unigolion yn ymwybodol o’r neges (Rooney et al, 2016), mae’r swm cyfartalog o ffrwythau a llysiau yn parhau i fod yn ystyfnig o isel ac yn llai na’r swm a argymhellir o 5-y-dydd.

Dim ond 33% o oedolion a dim ond 12% o bobl ifanc 11-18 oed sy’n cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

Mewn ymateb i hynny, ar draws Caerdydd, mae bwytai, manwerthwyr, gweithleoedd, ysgolion a thyfwyr wedi bod yn gwneud ‘adduned llysiau’ i gynyddu’r llysiau ffres sydd ar gael.

Hyd yn hyn mae’r rhain wedi cynnwys y canlynol:

  • Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig dogn ychwanegol o lysiau am ddim ym mhob pryd ysgol.
  • Mae’r tîm Ysgolion Iach wedi cynhyrchu pecyn adnoddau ‘Nerthu Eich Disgyblion â Llysiau’ ar gyfer athrawon a ‘Pecyn Pys Plîs i Rieni’, i ennyn diddordeb plant ysgolion cynradd mewn llysiau.
  • Mae tîm arlwyo Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi addo y bydd pob pryd yn cynnwys 2 ddogn o lysiau, ac yn cynnig cyrsiau ‘sut i goginio llysiau ar gyllideb’ i fyfyrwyr a staff.
  • Mae Wild Thing Café yn hyrwyddo llysiau ac yn cynllunio swper cymunedol rhad ac am ddim wedi’i wneud o lysiau rhandir dros ben.
  • Sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro stondin llysiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac maent yn cynnwys mwy o lysiau yn eu bwyty, sef ‘Y Gegin’.

Edrychwch ar ein pecyn cymorth defnyddiol o adnoddau syniadau a chymorth ar gyfer gweithleoedd os ydych yn awyddus i wneud ‘adduned llysiau’ – a rhowch wybod i ni drwy ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol yn @goodfoodcardiff.