Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae cynllun achredu cydnabyddedig yn ffordd wych o ddangos bod eich ymrwymiad i fusnes moesegol, cynaliadwy wedi’i ardystio’n annibynnol. Mae’n arwydd i’ch cwsmeriaid, eich cyflenwyr a’ch cymuned eich bod yn cymryd y materion hyn o ddifrif. Gall hyrwyddo dyfarniadau ac achrediadau gael effaith gadarnhaol ar fusnesau eraill o’ch cwmpas, gan eu hannog i wneud ymrwymiadau cadarnhaol i newid.

Mae dealltwriaeth defnyddwyr o’r hyn yw cymuned wedi’i chryfhau yn sgil COVID-19. Gan gydnabod pwysigrwydd cysylltiad a chymorth, bydd defnyddwyr yn trefnu cymunedau o’r un anian at ddibenion cymdeithasu a chwmnïaeth.

MINTEL: 2021 TUEDDIADAU BWYD A DIOD BYD-EANG

Mae llawer o opsiynau ar gael i fusnesau, ond mae tri sydd fwyaf perthnasol i’r sector lletygarwch:

Cymdeithas Bwytai Cynaliadwy (SRA): Rhaglen Food Made Good y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yw’r safon fwyaf adnabyddus yn fyd-eang ar gyfer y diwydiant sy’n mesur cynaliadwyedd ar draws y sector lletygarwch.

Goriad Gwyrdd: Eco-label gwirfoddol sy’n cydnabod rhagoriaeth mewn gweithrediadau amgylcheddol a chynaliadwy o fewn y diwydiant twristiaeth yw’r wobr Goriad Gwyrdd. Mae mwy na 3,200 o sefydliadau ledled y byd yn dal y statws Goriad Gwyrdd ac mae’n berthnasol i amrywiaeth o fusnesau llety, atyniadau a bwytai.

Gweinir Bwyd am Oes Yma: Cynllun Cymdeithas y Pridd yw Gweinir Bwyd am Oes Yma sy’n gwobrwyo arlwywyr am ddefnyddio cynhwysion lleol a moesegol sy’n cefnogi’r economi leol ac yn diogelu’r amgylchedd. Mae tair lefel i’r wobr – efydd, arian ac aur – sy’n cwmpasu cynhwysion, arfer da a gofal cwsmeriaid.

Cyflog Byw: Mae’r Cyflog Byw go iawn yn seiliedig ar gostau byw ac yn cael ei dalu’n wirfoddol gan gannoedd o gyflogwyr yng Nghymru, a miloedd o gyflogwyr ledled y DU. Mae Cynnal Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cyflog Byw a sefydliadau blaenllaw eraillyng Nghymru i gefnogi cyflogwyr gydag achrediad a gweithio tuag at sicrhau’r Cyflog Byw i bob gweithiwr yng Nghymru.

Os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth am faterion cynaliadwyedd, mae gan WRAP ystod eang o adnoddau a chymorth sy’n benodol i’r sector ar faterion fel lleihau gwastraff bwyd a mynd i’r afael â phlastig untro.

*Saesneg yn unig