Food Cardiff loading now

Mae siopa gyda busnesau lleol yn sicrhau bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn eich cymuned leol. Mae’n ffordd dda o gefnogi’r economi o’ch cwmpas, i helpu busnesau bach annibynnol ac i ddod o hyd i fwyd sy’n cael ei dyfu neu ei gynhyrchu’n lleol.

Ledled y ddinas, mae llawer o ffyrdd newydd o siopa a all fod o fudd i’ch cymuned, i’ch iechyd ac i’r amgylchedd.

Mae yna farchnadoedd ffermwyr a marchnadoedd bwyd lleol ar hyd a lled y ddinas hefyd – o Farchnad Ffermwyr Glan yr Afon sydd wedi bod yn cael ei chynnal ers 1998, i leoedd newydd fel Corp Market yn Nhreganna.

Ar y stryd fawr rydym yn gweld siopau ail-lenwi newydd yn dod yn fwy poblogaidd – mae Siop Sero yn y Rhath a Rhiwbeina yn enghraifft dda – lle y gallwch brynu bwyd rhydd sych ac wedi’i rewi a nwyddau glanhau, sy’n werth da am arian. Mae llenwi eich cynwysyddion eich hun yn golygu llai o ddeunydd pacio a gallwch brynu cymaint ag sydd ei angen arnoch chi.

Os ydych chi’n bwyta allan, mae’n helpu i gefnogi busnesau sydd hefyd yn helpu eu cymunedau – lleoedd fel Oasis Caerdydd, sefydliad cymunedol sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd hefyd yn rhedeg busnes arlwyo a bwyd stryd. Ac mae llawer o’n busnesau lletygarwch lleol yn gwneud eu rhan – cadwch eich llygaid ar agor am leoedd sy’n defnyddio cynnyrch lleol, sy’n talu’r Cyflog Byw ac sydd â safonau amgylcheddol fel y Goriad Gwyrdd.

Os ydych yn rhedeg busnes, dyma’r camau y gallwch eu cymryd i wneud gwahaniaeth. Mae Talu’r Cyflog Byw yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn y ddinas yn gallu fforddio bwyta’n dda, mae defnyddio cynnyrch lleol yn cwtogi ar drafnidiaeth ac yn cefnogi’r economi o’ch cwmpas, a gall ymuno â chynlluniau achredu amgylcheddol cydnabyddedig helpu i ysbrydoli eraill i ddilyn eich esiampl.