Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae marchnad wedi bod yng nghanol dinas Caerdydd ers 1891. Ac ers 1999, mae Marchnad Ffermwyr wedi cael ei chynnal ar lannau Afon Taf yng Nglan yr Afon bob dydd Sul, gyda marchnadoedd wythnosol yn cael eu hychwanegu’n ddiweddarach yn y Rhath a Rhiwbeina. Ac yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld marchnadoedd newydd yn ymddangos ledled y ddinas – marchnad Pontcanna a marchnad ffermwyr ar safle Iard King’s Road, Indie Superstore yn y Boneyard ac Ystum Taf a’r ychwanegiad diweddaraf, Marchnad y Corp yn hen dafarn y Corporation yn Nhreganna

Dyna gannoedd o dyfwyr a chynhyrchwyr sy’n dod â bwyd ffres i ganol y ddinas bob wythnos – yn aml mor ffres fel bod y ffrwythau a’r llysiau wedi’u casglu y bore y cânt eu gwerthu.

Gall marchnadoedd fod yn werth da iawn am arian – dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi y byddwch yn ei brynu – ac rydych yn gwybod yn union o ble mae eich bwyd yn dod oherwydd mai’r person sy’n ei werthu fel arfer yw’r person wnaeth dyfu neu wneud y cynnyrch.

Rydych hefyd yn cefnogi busnesau lleol, gan gwtogi ar gludo a storio bwyd, a gallu casglu awgrymiadau ar sut i baratoi a choginio eich bwyd.

Hefyd, mae’n llawer mwy o hwyl na cherdded o amgylch yr un hen archfarchnad!