Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Allwch chi ein helpu i ehangu rhwydwaith Bwyd Caerdydd? Byddem wrth ein bodd yn cael rhagor o fusnesau bwyd yn rhan o’n mudiad fel y gallwn i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud Caerdydd yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Os gwyddoch am fusnes bwyd sy’n rhannu’r nod hwnnw, anogwch nhw i ddod draw i ddigwyddiad Bwyd Caerdydd neu gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr. Gallwch neges uniongyrchol atyn nhw. Dyma e-bost enghreifftiol y gallwch ei gopïo a’i ludo (gan gynnwys y linc sydd ei hangen arnynt:

Helo,

Rhwydwaith o bobl a busnesau sy’n gweithio i wneud y ddinas yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU yw Bwyd Caerdydd. Maen nhw am i bawb gael gafael ar fwyd iach a chynaliadwy ac am helpu a chefnogi busnesau sy’n gwneud eu rhan dros yr amgylchedd a’r gymuned o’u cwmpas. Fel un o’ch cwsmeriaid rheolaidd, rwy’n credu y byddech yn enghraifft wych y gallen nhw ei defnyddio i ysbrydoli mwy o bobl i weithredu. Tybed a fyddech yn ystyried cofrestru i gael y cylchlythyr, eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu fynd i’r digwyddiad nesaf?

Diolch