Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae’r Cyflog Byw yn dda i staff, i fusnesau ac i’r economi leol.

Pam mae’n bwysig i Bwyd Caerdydd? Rydym am i bawb yn y ddinas allu fforddio bwyd maethlon, iach a chynaliadwy. Felly mae’n hanfodol bod pobl yn cael cyflog y gallant fyw arno.

Mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig yng Nghymru yn dangos i’ch staff, eich cwsmeriaid a’ch cyflenwyr eich bod yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r bobl sy’n gweithio i chi. Yn fwy na hynny, mae hefyd yn dda i fusnes.

Ar gyfer adroddiad gan Ysgol Fusnes Caerdydd, yn ymwneud â’r Cyflog Byw i Gymru, cynhaliwyd arolwg o 800 o fusnesau Cyflog Byw achrededig a chanfu fod 93% yn dweud eu bod wedi elwa o gael achrediad. Dywedodd bron naw o bob deg ei fod wedi gwella enw da y busnes, dywedodd tri chwarter ei fod yn cynyddu cymhelliant y staff a chyfraddau cadw staff a dywedodd mwy na chwech o bob deg ei fod wedi helpu i’w gwahaniaethu o fewn eu diwydiant.

Mae Caerdydd wedi cael ei chydnabod fel Dinas Cyflog Byw ac mae dros 61,000 o bobl yn y ddinas bellach yn gweithio i gyflogwr Cyflog Byw. Mae’r Cyngor hefyd yn darparu cymorth i dalu costau achredu i fusnesau

Gall ennill y Cyflog Byw olygu cymaint mwy na thâl. Gall olygu ei bod yn bosibl rhoi arian o’r neilltu at ‘ddiwrnod glawog’, treulio mwy o amser gyda’r teulu a thawelwch meddwl rhag peidio â gorfod poeni am fforddio’r pethau sylfaenol

CYFLOG BYW CYMRU