Food Cardiff loading now

Astudiaeth ymchwil yn canfod bod 71% o oergelloedd cartrefi a brofwyd yn gweithredu ar dymheredd anniogel

Mae astudiaeth gwyddoniaeth dinasyddion wedi canfod bod 71% o oergelloedd cartrefi a brofwyd yn gweithredu uwchlaw’r tymheredd diogel a argymhellir o 5°C. Ond yr hyn sy’n fwy pryderus fyth yw’r darganfyddiad bod 37% o oergelloedd cartrefi yn yr astudiaeth yn gweithredu ar 10°C neu’n uwch.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan arbenigwyr diogelwch bwyd yn Uned Ymchwil Bwyd a Diod ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae cyhoeddi’r canlyniadau yn cyd-daro â Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), a gynhelir ar 7 Mehefin bob blwyddyn.

Un o bum awgrym diglewch bwyd Sefydliad Iechyd y Byd yw “cadw bwyd ar dymheredd diogel” ac mae rhewi yn chwarae rhan hanfodol. Mae canllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell bod oergelloedd domestig yn gweithredu ar dymheredd o 5°C neu is a gall oergelloedd sy’n gweithredu uwchlaw’r tymheredd hwn gynyddu cyfradd twf bacteria a gludir gan fwyd fel Listeria monocytogenes, a all achosi salwch gwenwyn bwyd difrifol fel listeriosis.

Mae ymchwil flaenorol gan ZERO2FIVE wedi canfod, er bod 79% o’r bobl a holwyd yn credu bod rhewi’n bwysig, nid oedd 84% o’r defnyddwyr a holwyd yn ymwybodol o beth ddylai tymheredd gweithredu diogel oergell fod.

O ystyried y diffyg ymwybyddiaeth hwn, datblygodd ymchwilwyr o ZERO2FIVE brosiect gwyddoniaeth dinasyddion a ddosbarthodd dros 1000 o thermomedrau oergell i aelodau’r cyhoedd mewn digwyddiadau yng Nghymru. Cyfarwyddwyd y cyfranogwyr i lanlwytho ffotograff o’r thermomedr yn oergell eu cartref a chofnodi ei dymheredd gweithredu gan ddefnyddio teclyn ar-lein.

Ymatebodd 201 o gyfranogwyr a dywedodd 90% ohonynt nad oeddent yn berchen ar thermomedr oergell cyn cymryd rhan yn yr astudiaeth. Dangosodd y canlyniadau fod tymheredd oergelloedd cartrefi yn amrywio o 0°C i 20°C, gyda 71% yn uwch na’r tymheredd diogel a argymhellir o 5°C. Roedd yn destun pryder mawr bod gan 37% o’r cyfranogwyr oergelloedd yn gweithredu ar dymheredd o 10°C neu uwch.

O’r 127 o gyfranogwyr â thymheredd oergelloedd yn uwch na 5°C, roedd 80% yn pryderu am y potensial i facteria gwenwyno bwyd dyfu ac yn bwriadu addasu tymheredd eu hoergell. Dywedodd 18% arall y byddant yn ystyried addasu tymheredd eu hoergell, tra mai dim ond 2% o’r cyfranogwyr a ddywedodd nad oeddent yn poeni ac nid oedd ganddynt unrhyw gynlluniau i addasu tymheredd eu hoergell.

Dywedodd Dr Ellen Evans, Darllenydd mewn Ymddygiad Diogelwch Bwyd yn Uned Ymchwil Bwyd a Diod ZERO2FIVE:

“Mae’r canfyddiada’r astudiaeth hwn yn bryderus o ran tymheredd oergelloedd cartrefi. Er mwyn sicrhau bod pobl yn defnyddio eu hoergell ar y tymheredd cywir ac yn storio bwyd yn ddiogel, rydym yn argymell bod pawb yn defnyddio thermomedr oergell, nad yw’n ddrud i’w brynu, ac yna’n addasu rheolyddion eu hoergell i sicrhau ei fod yn gweithredu ar dymheredd o 5°C neu is.

“Mae ein canfyddiadau hefyd yn dangos y gall ymchwil gwyddoniaeth dinasyddion fod yn ddefnyddiol ar gyfer casglu data diogelwch bwyd gan y cyhoedd, cyfleu negeseuon diogelwch bwyd allweddol, a hyrwyddo gwell arferion diogelwch bwyd.”

I gael gwybod mwy am sut i oeri bwyd yn ddiogel, ewch i: https://www.food.gov.uk/safety-hygiene/how-to-chill-freeze-and-defrost-food-safely