Food Cardiff loading now
Members of the renamed Cardiff Community Food

Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol yn newid i fod yn Gydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd

Mae Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol Bwyd Caerdydd yn newid, a hynny er mwyn adlewyrchu cwmpas ac amrywiaeth y prosiectau y mae’n eu cefnogi.

Enw’r grŵp bellach yw Cydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd. Er bod y grŵp yn cynrychioli nifer o brosiectau gwahanol sy’n amrywio o ran eu ffocws a’u ffyrdd o weithio, mae ganddo nodau cyffredin:

  • Credwn y dylai pawb allu dewis, fforddio a chael mynediad i fwyd maethlon, iach sy’n ddiwylliannol briodol.
  • Nod pob un ohonom yw cynyddu mynediad i fwyd da, dod â phobl at ei gilydd a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.
  • Rydym yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar le ac wedi’i arwain gan y gymuned tuag at ein gwaith

Yn ogystal â bod yn agored i aelodau o dimau’r prosiectau, mae’r Gydweithfa hefyd yn agored i gefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda phrosiectau bwyd cymunedol, er enghraifft Adran Ddieteg Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro, Ysgol Fusnes Caerdydd a C3SC.

Mae’r Gydweithfa yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i rannu gwybodaeth ac adnoddau, gan sicrhau bod yr aelodau’n dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd. Mae’r aelodau yn cydweithio hefyd i gydlynu a chyflwyno prosiectau.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod y Grŵp yn cynnal fforwm ar-lein i gydweithio rhwng cyfarfodydd; yn rhannu cyfleoedd hyfforddi ar y cyd; yn llais ar y cyd dros newid a mynd i’r afael a phrif achosion tlodi bwyd; ac yn cydweithio i gyflawni prosiectau, er enghraifft, sicrhau ffynonellau gwydn o gyflenwadau bwyd.

Mae Bwyd Caerdydd a’r Gydweithfa hefyd wedi cyd-greu pecyn cymorth sy’n cefnogi grwpiau i sefydlu prosiectau manwerthu amgen ac i gefnogi’r broses o ddatblygu map o brosiectau bwyd cymunedol.

Gallwch ymuno â’r Gydweithfa yn rhad ac am ddim ac mae croeso i unrhyw brosiect bwyd cymunedol yng Nghaerdydd, neu unrhyw sefydliad sy’n gweithio gyda neu’n cefnogi prosiectau bwyd cymunedol i ymuno. Cynhelir cyfarfod nesaf y Gydweithfa ar 24 Mai 2024 ym Mhantri Trowbridge. Cysylltwch â foodsensewales@wales.nhs.uk i ymuno.

Y mathau o brosiectau sydd gan y Gwasanaeth Bwyd Cymunedol

Dyma rai enghreifftiau o’r math o brosiectau sy’n aelod o’r Gydweithfa, ynghyd â manylion byr amdanynt. Mae croeso iddyn nhw ac eraill yng Nghydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd.

Math o BrosiectDisgrifiad Byr
Pantrïoedd BwydSiopau bwyd gyda thâl aelodaeth yw Pantrioedd fel arfer a gynhelir mewn canolfannau cymunedol. Bydd yr aelodau’n talu £2-7 fel arfer i brynu 10-15 o eitemau sy’n werth 2-3 gwaith yn fwy na hynny. Gall yr aelodau ddewis eu heitemau fel arfer. Mae ambell bantri yn rhan o’r rhaglen Your Local Pantry tra bod eraill yn cael eu rhedeg yn annibynnol.
Clybiau Food On Our Doorstep (FOOD)Mae Fun by Family Action, FOOD Clubs yn debyg i bantrïoedd. Dim ond £1 y flwyddyn y mae’n ei gostio i deulu ddod yn aelodau. Bydd yr aelodau’n talu £3.50-£4 yr wythnos am fag o fwyd sy’n werth £10-£15.
Big Bocs BwydRhaglen mewn ysgolion yw Big Bocs Bwyd ble y rhoddir bwyd i blant a theuluoedd am bris ‘talu fel y mynnwch’. Ochr yn ochr â’r siop fwyd, rhoddir profiadau dysgu traddodiadol i’r plant drwy gyfrwng tyfu a choginio bwyd.
Cydweithfeydd BwydGellir rhedeg Cydweithfeydd Bwyd mewn amryw o ffyrdd. Un enghraifft (sy’n seiliedig ar Gydweithfa Splo-Down), yw grŵp o gymdogion yn swmp brynu bwyd am bris cyfanwerthu, ac yn gwerthu bocsys llysiau a nwyddau sych am brisiau amrywiol – prisiau rhatach i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio bwyd a phrisiau ychydig yn uwch i bobl sy’n gallu talu amdano (yn ôl eu disgresiwn).
Oergelloedd CymunedolMae Oergelloedd Cymunedol ar agor i bawb a gall unrhyw un rannu bwyd neu gymryd bwyd, gan gynnwys gwarged o archfarchnadoedd, busnesau bwyd lleol, cynhyrchwyr, cartrefi a gerddi. Grwpiau cymunedol sy’n rhedeg yr oergelloedd mewn mannau cyhoeddus megis ysgolion, canolfannau cymunedol a siopau. Ni chodir unrhyw dâl fel arfer i gymryd bwyd o oergell gymunedol.
Prydau Bwyd Poeth Cymunedol Gall hyn gynnwys caffis cymunedol, clybiau brecwast a chinio. Maen nhw’n tueddu i gynnig prydau bwyd poeth am bris isel neu ar sail talu fel y mynnoch a lle i fwyta. Bydd rhai prosiectau yn rhoi bag o fwyd am ddim hefyd i’r rhai sy’n mynychu i fynd adref gyda nhw. Mae rhai ar agor i bawb ac eraill yn seiliedig ar gael eich atgyfeiriadau.
Gerddi Cymunedol Prosiectau cydweithredol yw gerddi cymunedol a hynny ar ddarn o dir sy’n cael ei arddio gan grŵp o bobl er budd y grŵp a’r gymuned ehangach. Mae’r Rhwydwaith Edible Cardiff yn cynnal sesiynau rhwydweithio penodedig ac yn rhoi cymorth i grwpiau tyfu bwyd.
EraillCeir llawer o brosiectau eraill hefyd sy’n ymwneud â bwyd cymunedol. Er enghraifft, dosbarthiadau coginio cymunedol, cynlluniau i helpu pobl dyfu bwyd gartref, banciau bwyd a grwpiau casglu lloffion.