Food Cardiff loading now

Adnoddau Newydd: Creu Prosiect Manwerthu Bwyd Cymunedol

Eisiau sefydlu cydweithfa fwyd, pantri neu fath arall o Fanwerthu Bwyd Cymunedol?

Mae’r Ilyfryn hwn yn ymdrech gydweithredol rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a Bwyd Caerdydd, gyda chefnogaeth wych gan aelodau’r Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol. Ein nod yw rhannu gwybodaeth a darparu arweiniad i sefydliadau cymunedol lleol sy’n dymuno sefydlu prosiect manwerthu cymunedol yn eu hardaloedd lleol.

Os oes diddordeb gennych mewn sefydlu neu ddatblygu pantri, cydweithfa fwyd, cwpwrdd bwyd, oergell gymunedol, clwb bwyd neu fath arall o fanwerthu amgen, dylai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol.

Diolch yn arbennig i Ysgol Fusnes Caerdydd a’r Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol am y gwaith caled yn creu’r adnodd gwych hwn.

Os hoffech ymuno â Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol Caerdydd, cysylltwch â ni foodsensewales@wales.nhs.uk