Food Cardiff loading now

Mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd.

Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn. Gallwch fod yn rhan o hynny – gan gydweithio ag eraill yn eich cymuned i ddylanwadu ar y system fwyd leol.

Mae bwyd yn ffordd wych o ddod â phobl yn nes at ei gilydd – drwy rannu bwyd a ryseitiau, coginio gyda’ch gilydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau, gallwch hefyd ddysgu sgiliau newydd yn ymwneud â thyfu, coginio a maeth.

Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau bwyd ar draws y ddinas y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw. Bob blwyddyn, mae Edible Cardiff yn cynnal gŵyl dyfu flynyddol ledled Caerdydd, gan helpu pobl i gael gafael ar blanhigion, hadau a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i dyfu bwyd gartref. ae hynny’n lle gwych i ddechrau. Os ydych chi eisiau cymryd mwy o ran, chwiliwch am ddigwyddiadau yn eich cymdogaeth chi – mae gan lawer o leoedd bellach ddigwyddiadau fel swper cymunedol neu farchnadoedd dros dro. Ac mae gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes gyllid ac adnoddau i helpu grwpiau i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau. Gallwch hefyd ymuno â rhwydwaith Bwyd Caerdydd fel ffordd o ganfod ysbrydoliaeth a chefnogaeth gan eraill.

Os hoffech fynd gam ymhellach, beth am ystyried dechrau eich digwyddiad eich hun fel ffordd o rannu’r hyn rydych chi’n ei wybod a’i garu am fwyd â phobl yn eich cymuned? Mae Bwyd Caerdydd wedi sefydlu cynllun i gefnogi pobl i wneud yr hyn a elwir yn Gymdogaethau Bwyd Da. Gallech fod yn cynnal eich digwyddiadau bwyd cymunedol eich hun y gellid eu cyflwyno ar draws y ddinas hyd yn oed.

Os ydych yn rhedeg busnes, un o’r ffyrdd gorau o gysylltu â’r gymuned yw drwy weithio gyda chyflenwyr lleol moesegol. Mae gan Gaerdydd nifer cynyddol o fentrau cymdeithasol ac nid er elw yn y sector bwyd. Mae gwario arian gyda nhw yn golygu eich bod nid yn unig yn cefnogi cyflenwr, ond yn ariannu eu cenhadaeth gymdeithasol hefyd – boed hynny’n gefnogi ffoaduriaid, ariannu cyfleusterau cymunedol neu helpu pobl mewn angen i gael gafael ar fwyd.

Rydym i gyd yn rhan o gymuned, lle bynnag yr ydym yn y ddinas – a gyda’n gilydd, drwy fwyd, gallwn wneud y cymunedau a’r cysylltiadau hynny hyd yn oed yn gryfach