Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Rydyn ni i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi gwastraffu bwyd. Ond ar yr adegau hynny pan fydd gennych ychydig dros ben, mae’n braf ei rannu gyda’ch cymdogion.

Ers y cyfnod clo, mae gan lawer o gymdogaethau grŵp Facebook neu WhatsApp, neu efallai eich bod yn defnyddio gwefannau fel nextdoor.co.uk

Mae Ap Olio wedi’i gynllunio’n benodol i helpu pobl i rannu’r bwyd nad ydyn nhw ei eisiau neu ei angen mwyach – gan helpu eich cymdogion a lleihau gwastraff bwyd.

Os ydych yn rhan o grŵp rhandir neu grŵp garddio cymunedol ac eisiau rhannu cynnyrch dros ben gyda phrosiectau bwyd, cysylltwch ag Edible Cardiff