Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Gwyddom fod Caerdydd yn ddinas sy’n cynnwys cymdogaethau daearyddol, diwylliannol a chymdeithasol amrywiol, pob un â hunaniaeth leol gref ac ysbryd cymunedol.

Mae gan lawer o’n cymunedau lleol brosiectau bwyd da ar waith yn barod – pethau fel marchnadoedd, gerddi cymunedol, cydweithfeydd a chlybiau bwyd, pantrïoedd, dosbarthiadau coginio a mwy.

Mae’n amlwg mai pobl leol sydd yn y sefyllfa orau i arwain y newid y maent am ei weld yn eu cymdogaethau eu hunain. Felly hoffai Bwyd Caerdydd gefnogi’r bobl hynny i greu eu rhwydwaith bwyd da lleol eu hunain, cynllun gweithredu a gweithgareddau.

Dyma’r syniad y tu ôl i’n rhaglen Cymdogaeth Bwyd Da. Rydyn ni’n chwilio am rannau o’r ddinas y gallwn ni eu helpu – a’u hariannu – i sefydlu prosiectau bwyd mewn cymdogaethau.

Cynhaliwyd peilot mewn tair ardal ar ddiwedd 2021 ac rydym nawr yn bwriadu cyflwyno’r cynllun ar draws y ddinas

Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost gan ddefnyddio’r ddolen isod.