Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae tyfu eich bwyd eich hun yn ffordd wych o fynd allan am ychydig o awyr iach a gweithgaredd corfforol. Profwyd bod y gweithgaredd corfforol sydd ei angen i arddio yn hybu iechyd corfforol, a gall y plannu, y chwynnu, y dyfrio a’r cynaeafu ychwanegu gweithgaredd corfforol pwrpasol at eich trefn ddyddiol. Mae tyfu hefyd yn brofiad dysgu gwych i blant, sy’n fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd newydd os ydyn nhw wedi helpu i’w tyfu.

Gallwch ddewis tyfu’n organig, ac arbed milltiroedd bwyd drwy fwyta’ch cynnyrch eich hun. Mae tyfu bwyd yn ein cysylltu â natur ac yn ein hatgoffa o’r gwaith caled sy’n mynd i’n bwydo ni i gyd.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi fwyta tomato yn syth o’r goeden neu lond llaw o bys ffres o’r ardd? Efallai y byddwch chi’n synnu pa mor wahanol yw blas bwydydd wrth eu bwyta’n syth o’r planhigyn. Gall gweld hadau’n egino a gofalu am blanhigion nes eu bod yn barod i’w cynaeafu wneud i chi deimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth.

Mae Edible Cardiff yn rhwydwaith llawr gwlad cyffrous o ‘dyfwyr’ – pobl leol, grwpiau a sefydliadau ledled Caerdydd sy’n tyfu eu cynnyrch eu hunain – ffrwythau, llysiau, perlysiau, salad, blodau a choed. Boed yn botyn bach o berlysiau ar silff ffenestr, neu roi help llaw yn y rhandiroedd lleol, ni fu erioed amser gwell i ymuno â nhw, a dechrau tyfu bwyd.

Os ydych yn dyfwr profiadol gydag awgrymiadau i’w rhannu, neu newydd ddechrau ac eisiau cwrdd â newydd-ddyfodiaid eraill, gallwch ymuno â’r mudiad gan ddefnyddio #BwydDaCaerdydd.