Food Cardiff loading now

Mae’r bwyd rydym yn ei fwyta yn rhan o system gymhleth y mae polisïau ar yr amgylchedd, iechyd a’r economi yn effeithio arni.

Felly, mae angen i bobl mewn grym gydweithio er mwyn hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a hygyrch yng Nghaerdydd.

Mae Bwyd Caerdydd eisoes yn gwneud y cysylltiadau hyn. Rydym yn bartneriaeth dinas gyfan sy’n cysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio tuag at sicrhau bwyd da i bawb.

Rydym hefyd yn cysylltu Caerdydd â rhwydweithiau ehangach fel Synnwyr Bwyd Cymru ac, ar lefel y DU, rhwydwaith Mannau Bwyd Cynaliadwy. Yn 2021, enillodd Caerdydd statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan ddod y lle cyntaf yng Nghymru – ac un o ddim ond chwech yn y DU – i ennill y wobr hon am ei gwaith arloesol yn hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

A thrwy ein rhwydweithiau, rydym yn gweithio’n agos gyda llunwyr polisi allweddol y ddinas – y cyngor, y bwrdd iechyd, ysgolion a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill – i’w helpu i hyrwyddo a darparu bwyd da mewn pethynas â phob penderfyniad polisi mawr. Mae hyn yn golygu bod darpariaeth ar gyfer bwyd cynaliadwy ac iach yn cael ei hystyried mewn unrhyw bolisïau newydd sy’n ymwneud â’r pethau sydd bwysicaf i bawb yn y ddinas, fel tai, iechyd, addysg, cynllunio a’r amgylchedd.

Y mwyaf yw’r mudiad Bwyd Da yn y ddinas, y mwyaf o rym fydd ganddo i wneud newidiadau. Felly, mae angen i bawb gymryd rhan er mwyn ein helpu i dyfu.

Drwy ymuno â rhwydwaith Bwyd Caerdydd, cymryd rhan yn un o’n digwyddiadau, neu hyd yn oed dim ond rhannu ein cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn helpu i ddangos pŵer y mudiad ar gyfer Bwyd Da yn y ddinas.

Os ydych am fynd gam ymhellach, darllenwch Strategaeth Bwyd Da Caerdydd, gwnewch addewid i weithredu a rhannu’r camau hynny gyda phawb yn eich rhwydweithiau eich hun i’w hannog i ymuno â’r mudiad.

Drwy wneud addewid i helpu mudiad Bwyd Da Caerdydd i dyfu, byddwch yn rhan o wneud system fwyd ein dinas yn decach a gwella ei chysylltiadau.