Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Ledled y ddinas mae sefydliadau cymunedol yn helpu pobl a allai fod yn cael trafferth cael mynediad at fwyd. Maen nhw’n hyrwyddo manteision iechyd ac iechyd meddwl tyfu eich bwyd eich hun, gan helpu i ddod â’n cymunedau yn agosach at ei gilydd a chefnogi ein pobl ifanc mewn ysgolion.

Mae’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ar gyllidebau tynn. Fel busnes efallai bod gennych adnoddau, sgiliau a gofod a allai fod o gymorth mawr i sefydliad sy’n lleol i chi. Efallai fod gennych chi hefyd dir sydd y gellir ei ddefnyddio i dyfu bwyd – mae galw mawr am grwpiau cymunedol a ffermwyr ar raddfa fach yng Nghaerdydd.

Mae prosiectau bwyd cymunedol ar waith ledled y ddinas. Dyma rai enghreifftiau o raglenni Bwyd Caerdydd y gallai busnesau eu cefnogi gydag amser, gofod, arbenigedd, rhoddion neu gyllid:

Food Power: Mae Bwyd Caerdydd yn un o gynghreiriaid tlodi bwyd Food Power, sy’n gweithio i gryfhau gallu cymunedau lleol i leihau tlodi bwyd. Ymhlith y prosiectau mae darparu cymorth i staff rheng flaen ddeall a hyrwyddo Talebau Cychwyn Iach yn well, a lansio Pantri Dusty Forge yn Nhrelái.

Clybiau bwyd sy’n seiliedig ar aelodaeth yw pantrïoedd sy’n galluogi pobl i gael mynediad at fwyd am gyfran fach o brisiau arferol yr archfarchnad, gan wella sicrwydd bwyd yn y cartref a rhyddhau mwy o arian ar gyfer costau cartref hanfodol eraill.

Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes: Mae bwyd da hyd yn oed yn well pan gaiff ei rannu. Mae digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes yn weithgareddau cymunedol rheolaidd sy’n cysylltu pobl o bob oed a chefndir drwy fwyd. O gyllid ar gyfer eich gweithgaredd coginio neu dyfu, i offer a deunyddiau i ddod â’ch cymuned at ei gilydd, mae Bwyd Caerdydd wedi bod yn helpu pobl i redeg Dewch at eich Gilydd ledled y ddinas.

Dinasoedd Llysiau: Mae ymgyrch Dinas Llysiau Caerdydd yn cynyddu’r llysiau a fwyteir drwy newid pethau ar lefel leol – hyrwyddo llysiau, tyfu llysiau, cynnwys mwy o lysiau mewn prydau ysgol, lleihau faint o lysiau sy’n cael eu gwastraffu, a chymaint mwy. Gall bwytai, manwerthwyr, gweithleoedd, ysgolion a thyfwyr i gyd wneud adduned llysiau.

Cymorth gyda Manwerthu Bwyd Cymunedol: Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu, cefnogi neu ddatblygu pantri, cydweithfa fwyd, oergell gymunedol, clwb bwyd neu fath arall o fanwerthu amgen, gall Bwyd Caerdydd helpu. Cynhyrchodd Bwyd Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd y canllaw hwn gyda chymorth y Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol. Diolch o galon i’r Ysgol Busnes Caerdydd

Edrychwch ar y gwaith y mae’n ei wneud ar ein tudalen newyddion a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd.