Food Cardiff loading now

Byddaf yn coginio ac yn bwyta er mwyn cael iechyd gwell

Os hoffech fynd â phethau gam ymhellach, gallech ddechrau ymchwilio i weithgareddau bwyd da yn eich cymuned leol, neu hyd yn oed ystyried sefydlu eich prosiect bwyd neu gydweithfa leol eich hun.

Byddaf yn coginio ac yn bwyta mewn ffordd sy’n diogelu’r amgylchedd

Os gwnawn ni i gyd y newidiadau hyn gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod effaith Caerdydd ar yr amgylchedd yn fwy cadarnhaol.

Byddaf yn cefnogi busnesau bwyd lleol

Mae siopa gyda busnesau lleol yn sicrhau bod yr arian rydych chi’n ei wario yn parhau i gylchredeg yn eich cymuned leol. Mae’n ffordd dda o gefnogi’r economi o’ch cwmpas, i helpu busnesau bach annibynnol ac i ddod o hyd i fwyd sy’n cael ei dyfu neu ei gynhyrchu’n lleol.

Byddaf yn cysylltu ‘m cymuned drwy fwyd

Mae’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd.

Byddaf en helpu mudiad Bwyd Da Caerdydd i dyfu

Y mwyaf yw’r mudiad Bwyd Da yn y ddinas, y mwyaf o rym fydd ganddo i wneud newidiadau. Felly, mae angen i bawb gymryd rhan er mwyn ein helpu i dyfu.