Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae 1.1 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei daflu gan y diwydiant Lletygarwch a Gwasanaeth Bwyd bob blwyddyn.

Ar gyfer pob gram o fwyd sy’n dod i ben ei daith yn y bin mae cost amgylcheddol. Mae’r broses o gynhyrchu pob pysen, taten a thafell o fara yn rhyddhau CO2 i’r atmosffer, ac mae’r broblem yn gwaethygu pan fydd y bwyd hwnnw’n cyrraedd y bin. Yn wir, pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai’n drydydd o ran cyfraddau allyrru nwyon tŷ gwydr ar ôl Tsieina a’r Unol Daleithiau.

Gallwch helpu drwy gymrmyd camau i atal gwastraff bwyd er mwyn helpu eich busnes, yr amgylchedd a’ch cymuned.

Defnyddiwch Gyfrifiannell Arbedion Guardians of Grub i’ch helpu i gyfrifo faint o arian y gallech ei arbed pe baech yn rhoi’r gorau i wastraffu bwyd.

Ystyriwch ddefnyddio un o’r apiau rhannu bwyd i leihau gwastraff fel Too Good to Go. Ar gyfer gwastraff bwyd na ellir ei osgoi, gofynnwch i’ch darparwr gwastraff am gasgliadau bwyd ar wahân fel opsiwn mwy cynaliadwy – mae Cyngor Caerdydd yn cynnig hwn fel gwasanaeth.

Edrychwch ar yr adnoddau isod, a’r astudiaethau achos hyn i gael rhagor o ysbrydoliaeth.