Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Mae mwy na thraean yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu cynhyrchu gan bobl yn deillio o’r system fwyd.

Mae’r bwyd rydyn ni’n ei ddewis, o ble mae’n dod, a sut mae’n cyrraedd ein plât yn un o’r penderfyniadau mwyaf dylanwadol y gallwn ni ei wneud ar gyfer dyfodol ein planed. Bydd newid yn hanfodol os ydym am gadw’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang ymhell o dan y 2 radd a nodir yng Nghytundeb Paris.

Drwy ddewis gweini prydau mwy cynaliadwy ar eich bwydlen, gallwch ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau sy’n gyfeillgar i’r blaned.

Mae ymgyrch One Plate Planety Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy yn diffinio bwyd sy’n gyfeillgar i’r blaned fel yr hyn sydd:

  • Yn Dod o Ffynonellau Lleol: Mae prynu oddi wrth gynhyrchwyr lleol yn rhoi mynediad i chi at fwyd ffres tymhorol, sy’n aml yn cynhyrchu llai o garbon. Mae hefyd yn darparu buddsoddiad gwerthfawr yn yr economi leol, yn helpu i sefydlu rhwydweithiau bwyd ffyniannus a chynhyrchu treftadaeth fwyd leol.
  • Yn Defnyddio Mwy o Lysiau:Er bod lle i anifeiliaid pori gwell sy’n cael eu magu yn unol â safonau lles uwch mewn system fwyd atgynhyrchiol, mae tystiolaeth dda i gefnogi’r achos dros fwyta cig a chynnyrch llaeth o ansawdd gwell a llai ohonynt, er budd iechyd pobl ac iechyd y blaned.
  • Ag Ôl Troed Carbon Llai:Er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae gwyddonwyr yn cytuno bod angen i ni leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol, yn enwedig carbon. Mae’r holl gynhwysion sy’n rhan o’n prydau bwyd yn cael effaith y gellir ei gyfrifo ar allyriadau.
  • Yn Dod o Ffynonellau Cynaliadwy:Er enghraifft, sgôr o ‘1’ neu ‘2’ yng Nghanllaw Pysgod Day Gymdeithas Cadwraeth Forol.
  • Yn Gwastraffu Dim: Mae mwy nag 1 filiwn o dunelli o fwyd yn cael ei wastraffu yn niwydiant lletygarwch y DU bob blwyddyn. Gall cogyddion ddefnyddio’r llu o sgiliau sydd ganddynt i wneud y gorau o bob cynhwysyn a lleihau hynny.

Edrychwch ar yr adnoddau isod i gael ysbrydoliaeth a syniadau i’ch helpu i weini bwyd sy’n fwy cyfeillgar i’r blaned.