Food Cardiff loading now

Astudiaeth Achos Adduned Bwyd Da Caerdydd: Waterloo Tea

Ein hymgyrch #BwydDaCaerdydd yw ein cenhadaeth i wneud Caerdydd yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU – drwy ofyn i bobl o bob cefndir ‘wneud adduned’ fydd yn helpu Caerdydd i gyflawni statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur erbyn y flwyddyn 2024.

Gyda chymorth cyllid gan Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd AM BYTH, rydym wedi bod yn proffilio rhai o’r busnesau yng nghanol y ddinas sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth; yma rydym yn siarad â Kasim Ali, sylfaenydd a pherchennog Waterloo Tea a Chaffi Wyndham.

“Rydw i’n rhedeg dau fusnes lletygarwch yma yng nghanol dinas Caerdydd – Waterloo Tea, a Chaffi Wyndham a agorwyd yn fwy diweddar. Rydyn ni wrth ein boddau yng nghanol Caerdydd, yn chwifio’r faner dros fusnesau annibynnol a rhoi dewis i bobl sy’n ymweld i fynd rywle nad yw’n un o’r cadwyni arferol.

“Yn y ddau fusnes, mae sicrhau cynnyrch lleol yn bwysig iawn i ni; ry’n ni’n gwybod bod cynnyrch gwych gennym ni yma yn ne Cymru ond weithiau dydy’r cysylltiadau dosbarthu ddim yna. Roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau gwneud busnes mewn ffordd sy’n cefnogi cynhyrchwyr lleol, ac yn adeiladu’r cysylltiadau hynny, oherwydd ei fod yn beth braf i’w wneud – ac mae’n golygu mwy o ffresni ac ansawdd – ond mae’n bwysig yn economaidd hefyd; mae’n golygu bod y manteision ariannol yn aros yma yn Ne Cymru

“Gyda Chaffi Wyndham, ein nod yw cynnig rhywbeth hygyrch at ddant pawb – ond wedi’i brisio’n deg, gan ddefnyddio cynhwysion lleol wedi’u gwneud yn dda. Mae hyn yn golygu bod bwydlen o frecwast wedi’u ffrio, roliau brecwast a’r holl glasuron mae pobl yn gyfarwydd â nhw – ond gyda’n holl gynhwysion ffres sy’n dod o Farchnad Ganolog Caerdydd (bara, llysiau a chig). Mae’r cyflenwyr naill ai’n eu gollwng draw atom ni, neu mae’r staff yn gallu mynd lawr y ffordd i bigo rhywbeth, ac rydyn ni wrth ein boddau gyda hynny.

“Yn Waterloo Tea, rydym yn cynnig bwydlen brecinio drwy’r dydd o brydau mwy modern (fel wyau wedi’u potsio ac afocado, neu fadarch gwyllt ar dost gydag aioli) ynghyd ag ystod helaeth o de yr ydym yn ei sicrhau ni ein hunain. Er nad ydym yn defnyddio’r farchnad i gyflenwi Waterloo Tea, rydym yn cael ein bara gan bobydd organig lleol Alex Gooch, ein cynnyrch llaeth a’n nwyddau sych o Castell Howell, a’n llysiau o Ffrwythau a Llysiau Windsor ym Mhenarth.

Sicrhau cynnyrch lleol fel hyn yw’r sylfaen i pam rydyn ni yma. Mae’n gwneud i ni fwynhau gwneud busnes, mae’n gwneud i ni deimlo fel petawn ni’n rhan o rywbeth mwy, ac rydyn ni’n gwybod bod pob punt sy’n cael ei wario gyda ni yn cael effaith leol. Rydym am ddangos bod popeth yn bosibl. Mae meithrin cysylltiadau masnach yn lleol yn ne Cymru hefyd yn teimlo’n bwysig iawn er diogelwch bwyd a chynaliadwyedd yn y dyfodol.

“I ni, nid yw ‘cynaliadwyedd’ yn ymwneud â’r bwyd rydyn ni’n ei roi ar ein platiau yn unig, mae’n sicrhau ein bod yn gofalu am ein staff hefyd. Yn hanesyddol rydyn ni wastad wedi talu mwy na’r isafswm cyflog ond tua adeg Covid, fe benderfynon ni ein bod ni eisiau ffurfioli hyn a’i wneud yn rhan swyddogol o’r ffordd rydyn ni’n gweithio. Fel diwydiant, mae llawer o bobl yn maes lletygarwch ar gyflogau isel, ac yn aml nid yw hyn yn ddigon i dalu am gostau byw. “Fel cyflogwr, rhaid i chi wneud rhywbeth am hynny – y staff yw’r rhan bwysicaf o’r busnes. Rydym wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw Ardystiedig ers rhyw ddwy flynedd bellach.”

Mae Kas hefyd yn aelod gwirfoddol o fwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar gyfeiriad strategol y bartneriaeth, gan gynnig arweiniad ar sut i ddatblygu ei lwyddiant ymhellach.

Dywedodd, “Ymunais â Bwrdd Strategaeth Bwyd Caerdydd dros flwyddyn yn ôl bellach; yr hyn rydw i’n gobeithio cynnig yw safbwynt busnes lletygarwch – rhannu’r profiadau o’r diwydiant fel ein bod ni’n gallu dysgu oddi wrth ein gilydd a gwella’r system fwyd leol i bawb.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud adduned i helpu Caerdydd i gyflawni Statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur erbyn y flwyddyn 2024, dysgwch fwy drwy gofrestru yma.