Gwasanaethau ariannol arbenigol sydd â’i bencadlys yn Un, Sgwâr Canolog yw un o’r sefydliadau diweddaraf yng nghanol y ddinas i gefnogi’r ymgyrch i wneud Caerdydd yn un o leoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU erbyn 2024.
Mae Caerdydd eisoes yn meddu ar statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – y lle cyntaf yng Nghymru, ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i ennill y statws hwnnw, sy’n cael ei ddyfarnu ar lefelau efydd, arian ac aur.
Erbyn hyn mae Bwyd Caerdydd partneriaeth fwyd sy’n tyfu’n gyflym yn y ddinas, yn arwain ymgyrch i ddod â busnesau, sefydliadau’r trydydd sector a phrif sefydliadau’r ddinas at ei gilydd i helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy dros y ddwy flynedd nesaf.
Gyda chymorth Cronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd Am Byth crëwyd pecyn cymorth newydd i helpu busnesau o bob maint ac o bob sector yng nghanol y ddinas i weithredu er mwyn creu system fwyd fwy cynaliadwy ac iach sy’n economaidd lwyddiannus yn y ddinas.
Er bod rhai o’r addunedau yn canolbwyntio ar y sector lletygarwch yn benodol, gall unrhyw fusnes gyflawni’r rhan fwyaf o’r camau gweithredu, sy’n amlygu’r effaith bosibl y gall cwmnïau o bob cwr o’r ddinas ei gael i allu cyflawni’r nod o gael statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur.
Adduned Bwyd Da Hodge: Prynu gan fentrau cymdeithasol ac nid-er-elw
Busnes gwasanaethau ariannol arbenigol yw Hodge sy’n gweithredu yng Nghaerdydd ers dros 50 o flynyddoedd. Yn yr un modd ag addunedwyr eraill, ymrwymodd Hodge i brynu mwy o fwyd a diod iach i staff ac ymwelwyr a hynny oddi wrth fentrau cymdeithasol ac nid-er-elw yn y ddinas.
Meddai Gareth Cartwright, rheolwr cyfathrebu ac ymgysylltu Hodge:
“Rydym yn defnyddio llawer o gyflenwyr bwyd ac arlwyo lleol a gwahanol, ond mae ymgyrch Bwyd Caerdydd wedi gwneud i ni sylweddoli y gall defnyddio menter gymdeithasol, ar gyfer y digwyddiadau rydym yn eu cynnal i ddod â phobl at ei gilydd yn y gweithle, gefnogi’r gwaith y mae’r fenter yn ei wneud i gefnogi pobl yn y gymuned hefyd. Efallai ei fod yn ymddangos yn rhywbeth bach, ond pe bai mwy o fusnesau yn y ddinas yn gwneud yr un peth, gall gael effaith llawer mwy.
“Mae bwyd yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol Hodge – mae’n gyfle i ddod â phobl at ei gilydd ac yn gyfle i ni fel cyflogwr ofalu am eu hiechyd a’u llesiant. Rydym yn darparu opsiynau bwyd gwahanol i’r tîm drwy gydol yr wythnos – drwy brynu ffrwythau ffres yn lleol o Farchnad Caerdydd a sicrhau bod brecwast iach sy’n llenwi pobl ar gael ar ôl iddyn nhw ddod oddi ar y trên yn y bore.
“Efallai nad yw’r effaith y gall busnes gwasanaethau ariannol fel ein busnes ni ei chael ar greu system fwyd mwy cynaliadwy, teg ac iach yng Nghaerdydd yn amlwg i ddechrau, ond gallwch greu effaith drwy feddwl am ble rydym yn prynu ein bwyd a’r opsiynau sydd ar gael i gydweithwyr.”
Matt Davenport yw uwch reolwr arlwyo a lletygarwch Oasis Caerdydd, sef canolfan i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn y Sblot; mae dwy brif ran i’w swydd – darparu prydau bwyd poeth am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghaerdydd a’r cylch, a darparu gwasanaeth arlwyo allanol sy’n helpu i gefnogi’r ganolfan. Yn ddiweddar, darparodd ei dîm wasanaeth arlwyo ar gyfer cyfarfod mewnol ym mhencadlys Hodge yn Sgwâr Canolog. Meddai:
“Fel cogydd, rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael arbrofi gyda chymaint o wahanol ryseitiau, a chymaint o ffyrdd gwahanol o ymdrin â bwyd gan yr holl unigolion gwahanol sy’n defnyddio’r ganolfan – ac mae eu hanesion yn gwneud popeth yn fwy diddorol byth. Mae fy newis o ryseitiau wedi mynd o nerth i nerth dros y pum mlynedd diwethaf wrth i mi weithio ochr yn ochr â’r bobl rydym yn eu cefnogi yn Oasis – ac mae’r digwyddiadau arlwyo allanol rydym yn eu cynnal yn blatfform arbennig i ni allu rhannu’r ryseitiau a’r straeon hynny gyda’r gymuned ehangach yn ogystal â helpu i ariannu’r gwaith pwysig a wnawn ar yr un pryd .”
Ychwanegodd Gareth o Hodge: “Diolch i ymgyrch Bwyd Caerdydd am ein cyflwyno i Oasis, ac rydym wedi addunedu i sicrhau y byddwn yn manteisio ar unrhyw gyfle i ddod â chydweithwyr at ei gilydd dros fwyd i gefnogi un o fentrau cymdeithasol rhagorol y ddinas, sydd â phwrpas cymdeithasol gwych yn ganolbwynt i’r hyn mae’n ei wneud. P’un a ydych yn fusnes bwyd ai peidio, gall eich addunedau drwy ymgyrch Bwyd Caerdydd gael effaith bwerus iawn.”
I ddarllen yr astudiaeth achos yn llawn, cliciwch yma.
Gyda chymorth gan Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd Am Byth, crëwyd pecyn cymorth newydd i gynorthwyo busnesau o bob maint ac o bob sector yng nghanol y ddinas i weithredu er mwyn creu system fwyd fwy cynaliadwy ac iach sy’n economaidd lwyddiannus yn y ddinas.
Er bod rhai o’r addunedau yn canolbwyntio ar y sector lletygarwch yn benodol, gall unrhyw fusnes gyflawni’r rhan fwyaf o’r camau gweithredu, sy’n amlygu’r effaith bosibl y gall cwmnïau o bob cwr o’r ddinas ei gael i allu cyflawni’r nod o gael statws Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Aur.
Yr addunedau y gall busnesau o unrhyw sector eu gwneud yw:
- Prynu o sefydliadau sy’n gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i’r ddinas a buddsoddi ynddynt
- Prynu gan fentrau cymdeithasol ac nid-er-elw
- Darparu opsiynau bwyd a diod iach i staff ac ymwelwyr
- Dod yn gyflogwr Cyflog Byw ardystiedig
- Prynu’n lleol a chwtogi cadwyni cyflenwi
- Cefnogi digwyddiadau cymunedol lleol drwy gyfrannu eich arbenigedd, deunyddiau neu ddarparu lle
- Darllen Strategaeth Bwyd Da Caerdydd a dod yn llysgennad dros newid
- Rhannu eich gweithredoedd Bwyd Da gyda’ch rhwydweithiau
- Ymuno â chyfarfod Bwyd Caerdydd
Hefyd, datblygwyd cyfres o addunedau ar gyfer busnesau lletygarwch yn benodol
- Gweini dau ddogn o ffrwythau a llysiau ym mhob pryd
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio deunyddiau untro a #dewisailddefnyddio
- Asesu a lleihau eich gwastraff bwyd
Meddai Adrian Field cyfarwyddwr gweithredol AR GYFER Caerdydd:
“Un o nodau Cronfa Uchelgais y Ddinas yw helpu mwy o fusnesau Caerdydd i newid i’r economi werdd, ac i sicrhau bod canol y ddinas yn gyrchfan hamdden agored a hygyrch ddelfrydol. Mae’r uchelgeisiau hyn yn cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth Bwyd Caerdydd i gysylltu ein cymuned fusnes ddeinamig er mwyn helpu i sicrhau mai Caerdydd yw un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy y DU. Mae’n wych bod aelodau Caerdydd Am Byth yn cymryd camau tuag at gyflawni hyn.”
Ychwanegodd Pearl Costello, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd:
“Mae Bwyd Caerdydd o’r farn bod y bwyd rydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid dim ond ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, cynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Efallai eich bod o’r farn mai dim ond busnesau bwyd a diod sy’n gallu creu effaith, ond dengys ein hymgyrch, astudiaethau achos a phecyn cymorth y gall unrhyw fusnes wneud newidiadau syml sy’n cyfrannu at greu system fwyd leol gwell i bawb yn y ddinas.”
Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, a’i nod yw dylanwadu ar y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, a sicrhau mai bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy yw canolbwynt system fwyd teg, cysylltiedig a ffyniannus.
Mae gan fwrdd strategaeth Bwyd Caerdydd ddeg aelod gwirfoddol hefyd o amryw o sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Marchnad y Ffermwyr Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a Phrifysgol Caerdydd, i enwi dim ond rhai ohonynt.
Drwy’r rhwydwaith hwn, mae Bwyd Caerdydd yn llwyddo i ysgogi newid ar lefel y ddinas ac yn gweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf yr oes sydd ohoni.