Mae’r bwyd rydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd hefyd. Ond mae hefyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd.
Mae tua 50% o dir y Ddaear y mae modd byw arno yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, ac mae 77% o hwnnw’n cael ei ddefnyddio i bori anifeiliaid neu i gynhyrchu cnydau i fwydo anifeiliaid. O gyfuno hyn â phrosesu, cludo, gwerthu, storio, coginio – ac weithiau, taflu’r bwyd rydyn ni’n ei brynu – mae’r cyfan yn cael effaith.
Ond drwy ddeall y cysylltiad rhwng y blaned a’r plât, gallwn ddechrau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Gallwn ddysgu am effaith ein deiet ein hunain, a dod i wybod pa labeli i gadw ein llygaid ar agor amdanynt wrth geisio gwneud dewisiadau mwy cynaliadwy.
Gallwn ddeall o ble mae bwyd yn dod trwy ei dyfu gartref, neu gydag aelodau eraill o’n cymuned.
Gallwn siopa’n lleol, gan gwtogi ein milltiroedd bwyd, a dod o hyd i ffyrdd o osgoi deunydd pacio untro diangen; boed hynny ar ambell goffi tecawê, neu’r fasged siopa wythnosol.
A gallwn wneud y gorau o bob tamaid gyda ryseitiau sy’n lleihau gwastraff bwyd – a chompostio’r gweddill. Gallai sbarion heddiw ddod yn briddoedd iach y dyfodol!
Os gwnawn ni i gyd y newidiadau hyn gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod effaith Caerdydd ar yr amgylchedd yn fwy cadarnhaol.