Food Cardiff loading now

Cofrestrwch neu mewngofnodwch nawr i wneud eich adduned - diolch!.

Cofrestru Mewngofnodi

Gall fod yn anodd gwybod pa labeli i gadw llygad amdanynt wrth geisio siopa’n gynaliadwy.

Dylai labeli bwyd fod yn syml a gallant fod yn syml, ond yn aml maen nhw’n eithaf dryslyd. Gall labeli cig a llaeth fod yn arbennig o gamarweiniol; mae lluniau delfrydol o gaeau agored, prydferth ar lawer ohonynt, ond mewn gwirionedd, gallai’r man y daeth y cig yn eich selsig ohono edrych yn debycach i ffatri na fferm.

Drwy wybod y gwahaniaeth rhwng labeli Organig a Masnach Deg a ‘hollol naturiol’ a ‘ffres o’r fferm’, byddwch yn gallu gwneud dewisiadau bwyd mwy cynaliadwy, a chefnogi dulliau ffermio sy’n cael llai o effaith ar y blaned.