Roedd tîm Bwyd Caerdydd yn falch o groesawu wynebau cyfarwydd yn ogystal ag wynebau newydd i’r Cyfarfod, a oedd yn cynrychioli sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich gwaith, cysylltu â’r gymuned, a chyfrannu at enw da Caerdydd fel dinas fwyd gynaliadwy flaenllaw.
Ymunwch â’r rhwydwaith sy’n gyrru chwyldro bwyd da Caerdydd yn ein cynulliad haf ar 25 Mehefin.
Dylai plant ledled Cymru gael mwy o lysiau o Gymru ar eu platiau cinio ysgol, dywed Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod yr wythnos ar ôl iddo gyhoeddi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.
Roedd yr wythnos diwethaf yn garreg filltir arwyddocaol i bolisi bwyd yng Nghymru yn sgil rhyddhau dau gyhoeddiad pwysig – gyda gwaith Bwyd Caerdydd yn ymddangos fel astudiaeth achos sy’n esiampl i eraill yn y ddwy ddogfen.
Daeth dros 20 o gynrychiolwyr o brosiectau bwyd a thyfu cymunedol ynghyd i drafod cynaliadwyedd hirdymor ac i ddathlu cyflawniadau.
Ymunwch â Bwyd Caerdydd a’r sefydliadau, busnesau ac unigolion sy’n gweithio i wneud Caerdydd yn un o’r Lleoedd Bwyd mwyaf Cynaliadwy yn y DU.
Mewn digwyddiad diweddar yn y Senedd yng Nghaerdydd, daeth arbenigwyr ac arweinwyr polisi ynghyd i drafod y diweddariad i’r adroddiad Pedestrian Pound a gyhoeddwyd gan Living Streets, elusen gerdded y DU. Y neges allweddol? Yn ogystal â bod o fudd i’n hiechyd a’r amgylchedd, mae cymunedau y gellir cerdded iddynt o fudd i fusnes hefyd.
Mae’r cynllun ailgylchu yn enghraifft bwerus o sut y gall busnesau integreiddio cyfrifoldeb amgylcheddol ac effaith gymdeithasol – a nawr mae’r cwmni’n gwahodd mwy o leoliadau i ymuno â’r mudiad.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Bwyd Caerdydd gan fod ei strategaeth uchelgeisiol i greu rhwydwaith bwyd da cryf yn y ddinas yn golygu bod Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar.
Rydym yn cymryd cipolwg yn ôl ar Ŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd â’r uchafbwyntiau o’r 32 o ysgolion a grwpiau cymunedol y mae Bwyd Caerdydd wedi’u cefnogi â grantiau.
Mae Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd yn dod â chynrychiolwyr o bantris bwyd, ceginau cymunedol, a rhandiroedd ynghyd ac mae’n cynnwys deietegwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n rhannu’r un genhadaeth.