Dathlu 11 Mlynedd o Effaith. Arwain y degawd nesaf o newid.
Dyddiad i’r dyddiadur
Ymunwch â Bwyd Caerdydd a’r sefydliadau, busnesau ac unigolion sy’n gweithio i wneud Caerdydd yn un o’r Lleoedd Bwyd mwyaf Cynaliadwy yn y DU. Bydd y diwrnod hwn yn dathlu’r cynnydd aruthrol a wnaed ers 2014, a arweiniodd at Gaerdydd yn ennill gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024.
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ymlaen at y degawd nesaf, gan ymchwilio i’r hyn y mae pobl a phartneriaid yng Nghaerdydd eisiau ei weld erbyn 2035 o ran bwyd cynaliadwy – a sut y gallem gyrraedd y nod.
Caiff y mynychwyr gyfle i glywed hanes prosiectau ysbrydoledig, cwrdd â phobl sy’n arwain newidiadau a chael cyfle i ddylanwadu ar y cyfeiriad dros y 10 mlynedd nesaf mewn perthynas â bwyd yng Nghaerdydd.
Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan, ond gallwch gofrestru’n gynnar yma.
Yn ôl yr arfer, mae’r digwyddiad yn agored i bawb, waeth beth fo’u cysylltiad blaenorol â Bwyd Caerdydd a’n digwyddiadau.
Cynhelir y digwyddiad ar 25 Mehefin 2025 yn y Deml Heddwch, a darperir bwyd gan The Tidy Kitchen Company.
Trefn y Diwrnod: 10:30-17:30