Wrth i’r stryd fawr ar hyd a lled Caerdydd geisio ymdopi â’r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr a chynnydd yn nifer y siopau gwag, mae adroddiad newydd yn awgrymu y gallai’r ateb fod o dan ein traed—yn llythrennol.
Mewn digwyddiad diweddar yn y Senedd yng Nghaerdydd, daeth arbenigwyr ac arweinwyr polisi ynghyd i drafod y diweddariad i’r adroddiad Pedestrian Pound a gyhoeddwyd gan Living Streets, elusen gerdded y DU. Y neges allweddol? Yn ogystal â bod o fudd i’n hiechyd a’r amgylchedd, mae cymunedau y gellir cerdded iddynt o fudd i fusnes hefyd.
Pŵer Cerddwyr
Yn ôl yr adroddiad, mae pobl sy’n cerdded i ganol trefi yn tueddu i wario mwy o arian na’r rhai sy’n cyrraedd yno mewn car. Gall hynny ymddangos yn wrthreddfol i ddechrau, ond mae’n naturiol i ardaloedd sydd wedi’u neilltuo i gerddwyr ddenu mwy o ymwelwyr ac annog pobl i dreulio amser yno, pori a phrynu.
A dyna’n union sydd ar goll mewn sawl ardal manwerthu yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.
Er gwaetha’r ffaith bod digwyddiadau sy’n cael llawer o sylw yn y cyfryngau, fel cyngherddau Taylor Swift a gemau rygbi’r 6 Gwlad, yn denu torfeydd i’r ddinas, gwelwyd gostyngiad o 8.1% yn nifer yr ymwelwyr â Chaerdydd yn 2024. O gyfuno hynny â’r ffaith bod y nifer fwyaf erioed o siopau manwerthu wedi cau yn 2022 a bod un o bob chwe siop yn wag, mae’n amlwg bod angen newid.
Llwyddiant Lleol: Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd
Un enghraifft wych o bŵer cerddwyr ar waith yw Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, sy’n cynnal tair marchnad wythnosol brysur yng Nglan-yr-afon, y Rhath, a Rhiwbeina. Er bod llawer o siopau’r stryd fawr yn ei chael hi’n anodd, mae’r marchnadoedd hyn yn parhau i ffynnu.
“Hyd yn oed nawr, mae nifer yr ymwelwyr yn parhau i fod yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig,” meddai Carol Alyce Adams, Rheolwr Cyffredinol Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd. “Mae llawer o stondinau yn llwyddo i werthu eu holl gynnyrch bob penwythnos. Mae gennym restr aros ar gyfer rhai mathau o stondinau, ac mae llawer o bobl sy’n byw yn lleol yn dod bob wythnos, yn aml ar droed neu ar feic.”
Ond mae’r marchnadoedd yn cynnig mwy na dim ond cynnyrch ffres—maent yn hyb ar gyfer bywyd cymunedol.
“Mae marchnadoedd ffermwyr fel y rhai sy’n cael eu rhedeg gan Farchnadoedd Ffermwyr Caerdydd yn chwarae rhan unigryw yn y broses o gysylltu siopwyr yn uniongyrchol â’r bobl sy’n cynhyrchu eu bwyd,” esboniodd Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd. “Maen nhw’n dod â bwyd iach, cyfeillgar i’r blaned i ganol cymunedau ein dinas. Maent hefyd yn cyflawni diben cymdeithasol, gan gysylltu pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd a’u cyflwyno i fyd ehangach o straeon am fwyd, coginio a thyfu.”
Y gallu i gerdded = Bywiogrwydd
Ychwanegodd Catherine Woodhead, Prif Weithredwr Living Streets, fod stryd fawr y gellir cerdded iddi yn cyflawni swyddogaeth gymdeithasol hollbwysig: “Gall y stryd fawr fod yn achubiaeth i’r rhai sydd angen cysylltiadau cymdeithasol, gan ddarparu lle i ymweld ag ef, treulio amser ynddo a theimlo’n rhan o gymuned.”
Ac mae’r manteision economaidd yn glir. Mae adroddiad diweddaraf Pedestrian Pound yn cynnwys 12 astudiaeth achos o drefi a dinasoedd ledled y DU—gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, a Chil-y-coed—lle yr arweiniodd gwelliannau syml i strydoedd at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a gwerthiannau.
Diwedd y Gân
Wrth i lunwyr polisïau geisio adfywio’r stryd fawr, mae cerdded yn haeddu cael cryn dipyn o sylw—nid dim ond fel dull teithio, ond fel arf ar gyfer adferiad economaidd a chysylltiad cymdeithasol.
Oherwydd pan fyddwn yn buddsoddi mewn mannau y gellir cerdded iddynt, yn ogystal â chreu strydoedd gwell, rydym hefyd yn creu cymunedau cryfach.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn o wefan Living Streets yma: livingstreets.org.uk/PedestrianPound