Cynhaliwyd Cyfarfod Mis Mehefin Bwyd Caerdydd yr wythnos ddiwethaf ble y daeth tua 25 o bobl o bob rhan o’r Mudiad Bwyd Da ynghyd.
Roedd tîm Bwyd Caerdydd yn falch o groesawu wynebau cyfarwydd yn ogystal ag wynebau newydd i’r Cyfarfod, a oedd yn cynrychioli sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Cynhaliwyd y Cyfarfod yn y Deml Heddwch yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd a darparwyd cinio iach, lliwgar a blasus iawn gan y Tidy Kitchen Co.
Rhoddodd Pearl Costello, Cydlynydd Bwyd Caerdydd, gyflwyniad i Bwyd Caerdydd a gwaith Synnwyr Bwyd Cymru, y rhwydwaith o Bartneriaethau Bwyd sydd bellach yn cwmpasu pob awdurdod lleol yng Nghymru. Gallwch wylio’r cyflwyniad fideo yma.
Rhannodd Pearl y newyddion y bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Bwyd Caerdydd yn cael ei chynnal eto am chwe wythnos o ganol mis Medi, ac y bydd pecyn o grantiau bach i gefnogi sefydliadau i gynnal digwyddiadau yn cael ei gyhoeddi’n fuan. Mae lansiad yr ŵyl yn cyd-fynd unwaith eto â Gŵyl Fwyd Sain Ffagan a daw i ben gyda digwyddiad i ddathlu’r ffaith bod Caerdydd wedi llwyddo i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ar 23 Hydref. Bydd y digwyddiad hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu Strategaeth Bwyd Da ar gyfer y ddinas.
Mae cydlynydd newydd Bwyd Caerdydd yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd gan fod Pearl yn symud i rôl newydd gyda Synnwyr Bwyd Cymru cyn bo hir i gefnogi’r rhwydwaith Partneriaethau Bwyd.
Rhannodd y siaradwyr gwadd gipolwg ar ddau brosiect sy’n dangos y Rhwydwaith Bwyd Da ar waith.
Soniodd Marie Price, yr arweinydd clinigol ar gyfer Deieteg Iechyd Cyhoeddus, wrth y grŵp am y prosiect Yr Awr Fwyd. Ei nod yw creu ‘cenedl o ddinasyddion bwyd da drwy neilltuo un Awr Fwyd y dydd ym mhob ysgol i bob plentyn’. Y nod yw datblygu sgiliau llythrennedd bwyd, cynyddu nifer y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim a chynyddu’r ymgysylltiad rhwng y cartref a’r ysgol gyda theuluoedd.
Bu ymgynghoriad a gynhaliwyd â rhanddeiliaid, staff, rhieni a disgyblion o gymorth i ddatblygu pedair thema ar gyfer y rhaglen – addysg maeth, coginio, tyfu, cynaliadwyedd amgylcheddol. Dangosodd y gwaith ymchwil gefnogaeth gref gan ddisgyblion, staff a rhieni i’r syniadau.
Hyfforddwyd y staff mewn Sgiliau Bwyd Cymunedol a Maeth a hwyluso Yr Awr Fwyd, datblygwyd pecyn cymorth Yr Awr Fwyd a chymerodd chwe ysgol gynradd – 210 o ddisgyblion i gyd – ran yng nghynllun peilot y prosiect. Blasodd mwy na 90% o’r disgyblion fwyd newydd fel rhan o’r prosiect a gwnaethant gynyddu eu gwybodaeth o’r pedair prif thema. Fe wnaeth yr holl rieni a gymerodd ran fynychu pob sesiwn a dywedodd pob un ohonynt bod ganddynt fwy o sgiliau bwyta’n iach, cyllidebu, sgiliau coginio ymarferol a byrbrydau iach o ganlyniad. Adroddodd yr ysgolion gynnydd yn nifer y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn sgil Yr Awr Fwyd.
Yr ail brosiect a gyflwynwyd, ar sail cynllun peilot gan Bwyd Caerdydd, yw Cerdyn y Blaned.
Dyluniwyd Cerdyn y Blaned ar y cyd gan ddinasyddion, deietegwyr, ffermwyr a Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd ac mae’n un o ddeg cynllun peilot Pontio’r Bwlch Sustain. Mae’n cerdyn wedi’i lenwi ymlaen llaw gydag £11 o lwfans yr wythnos ar gyfer pobl ar incwm isel i’w wario ar draws stondinau llysiau ym marchnadoedd y Rhath a Glan yr Afon. Lansiwyd Cam 2 ym mis Hydref 2024 gyda lle i hyd at 150 o aelwydydd.
Sicrhaodd Ysgol Fusnes Caerdydd £50,000 ychwanegol i werthuso’r rhaglen. Rhannodd Dr Helena Knight o’r tîm sy’n rhedeg y prosiect y canfyddiadau cychwynnol gyda’r grŵp.
Mae eu prosiect yn edrych ar sut y gall Rhwydweithiau Bwyd Amgen, fel Planed Caerdydd, sy’n cefnogi aelwydydd â diffyg diogeled bwyd, hwyluso ffordd deg i newid i systemau bwyd-amaeth sero net. Maent yn asesu’r newidiadau mewn deiet a llesiant, nodi rhwystrau i ymgysylltiad â systemau bwyd a datblygu canllawiau i dyfu mentrau.
Mae’r canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod:
- £11 yn ‘mynd yn bell’, gan ddarparu digon o ffrwythau a llysiau ar gyfer yr wythnos.
- Ffrwythau a llysiau o’r farchnad yn cael eu hystyried yn rhai o ansawdd uwch a’u bod yn para yn llawer hwy na rhai cyfatebol o’r archfarchnad.
- Nifer o’r cyfranogwyr yn blasu bwydydd newydd ac yn dysgu ryseitiau newydd ar sail y cynnyrch sydd ar gael.
- Nifer o’r cyfranogwyr yn teimlo wedi’u grymuso gan Gerdyn y Blaned i brynu ffrwythau a llysiau iachach ac i wneud dewisiadau siopa mwy meddylgar a gwybodus.
- Cymryd rhan yn y cynllun Cerdyn y Blaned yn helpu rhai o’r cyfranogwyr hefyd i gryfhau cysylltiadau cymdeithasol presennol a datblygu rhai newydd wrth ymweld â’r marchnadoedd.
Mae rhai o’r rhwystrau a nodwyd yn cynnwys:
- Mae rhai o’r bobl sy’n newydd i farchnadoedd ffermwyr yn teimlo’n bryderus ynghylch siopa ynddynt i ddechrau oherwydd ei fod yn brofiad gwahanol i siopa mewn archfarchnad (e.e. ciwio, prisiau)
- Mae cost teithio i’r marchnadoedd yn broblem i’r cyfranogwyr sydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i’w cyrraedd.
Mae gwerthusiad llawn o’r prosiect Cerdyn y Blaned wedi’i gynllunio ar gyfer diwedd y cam hwn o’r cynllun peilot ym mis Tachwedd 2025.
Bydd Cyfarfod nesaf Bwyd Caerdydd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref yn y Deml Heddwch. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.







