Food Cardiff loading now

Ymunwch a’r Ardal Bwyd Da yng Ngŵyl Fwyd Sain Ffagan

Mae Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd ar y gorwel, a bydd Bwyd Caerdydd yn dechrau’r dathliadau gyda’r Ardal Bwyd Da yng Ngŵyl Fwyd Sain Ffagan (13-14 Medi). Dyma eich cyfle i fod yn rhan o un o brif wyliau bwyd Cymru – ac i’n helpu i ddathlu’r ffaith bod Caerdydd wedi cael ei henwi’n un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Rydym yn galw ar bob sefydliad, grŵp cymunedol, unigolyn neu fusnes i gyflwyno eu syniadau ar gyfer digwyddiadau, gweithdai neu sgyrsiau ar gyfer Ardal Bwyd Da Caerdydd. Oes gennych chi stori i’w hadrodd am fwyd cynaliadwy? Allwch chi gynnal arddangosiad arbenigol? Neu weithdy diddorol i ysbrydoli eraill?

Y llynedd, roedd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl ac roedd yno amrywiaeth eang o sesiynau a stondinau. I roi blas i chi o’r hyn sy’n bosibl, dyma ychydig o enghreifftiau o’r hyn a gynhaliwyd y llynedd:

  • Trafod a Blasu Salad gan Ardd Salad Caerdydd: Ysbrydoliaeth i fwyta’n iach a chynnyrch lleol.
  • Danteithion Trofannol: Sut i Goginio Plantain gan Bantri Tremorfa: Rhannu sgiliau coginio amrywiol.
  • Sut i Wneud Bara Surdoes gan David Le Masurier o Pettigrew Bakeries: Dangos sut i wneud bara artisan.
  • Piclo ar gyfer y Blaned gyda Green Squirrel: Sut i gadw bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
  • Bwydydd a Diodydd wedi’u Heplesu: Dechrau Eich Taith tuag at Iechyd gan Absorb: Archwilio manteision iechyd bwydydd wedi’u heplesu.
  • Ffrwythau gwaharddedig: ysgrifennu barddoniaeth gydag Orchard Cardiff a Sarah Featherstone: Cyfuno themâu bwyd â mynegiant creadigol.

P’un a ydych yn fusnes, yn grŵp cymunedol, neu’n unigolyn, gallwch wneud cais am stondin neu i gynnal gweithdy neu arddangosiad. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos eich gwaith, cysylltu â’r gymuned, a chyfrannu at enw da Caerdydd fel dinas fwyd gynaliadwy flaenllaw.

Gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus, eich bod yn fodlon cynnal asesiad risg, ac os ydych yn cynnig samplau bwyd, bod gennych dystysgrif hylendid bwyd. A nodwch na ellir gwerthu unrhyw gynhyrchion fel rhan o’r sesiynau hyn.

Cwblhewch y ffurflen hon erbyn 20 Gorffennaf er mwyn bod yn rhan o Ardal Bwyd Da Caerdydd!