Food Cardiff loading now

Dylai plant ledled Cymru gael mwy o lysiau o Gymru ar eu platiau cinio ysgol

Dylai plant ledled Cymru gael mwy o lysiau o Gymru ar eu platiau cinio ysgol, dywed Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod yr wythnos ar ôl iddo gyhoeddi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn annog holl gynghorau Cymru i ymrwymo i fwy o blant gael mwy o lysiau o Gymru yn eu cinio ysgol.

Mae pum cyngor newydd bellach wedi ymuno â’r prosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion, yn dilyn saith a ymunodd y llynedd. Ar ôl rhyddhau ei adroddiad mawr, mae Derek Walker eisiau i bob un o’r 22 cyngor i wneud yr un fath fel rhan o’i alwad am gynllun bwyd cenedlaethol.

Mae menter Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn cynyddu’r cyflenwad o lysiau organig a gynhyrchir yn lleol mewn prydau ysgol a dywedodd Mr Walker y gallai hyn fod yn rhan o gynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal i ddiet lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy.

Roedd yr ymrwymiad yn un o nifer a wnaed mewn ymateb uniongyrchol i adroddiad y comisiynydd, gan sefydliadau yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a oedd yn nodi 10 mlynedd ers lansio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac a fynychwyd gan 300 o bobl.

Cyhoeddodd Katie Palmer, Penaeth Synnwyr Bwyd Cymru, y bydd pum cyngor newydd, sef Sir Benfro, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Gwynedd yn ymuno â Llysiau Cymru mewn Ysgolion, gan sicrhau y bydd miloedd o blant ysgol yn elwa o lysiau ffres, wedi eu tyfu’n lleol. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Powys a Bro Morgannwg eisoes yn rhan o’r cynllun.

Ymrwymodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i gynllun Cyflog Byw go iawn o fewn dwy flynedd, sef cynllun y gofynnodd y Comisiynydd amdano gan bob corff cyhoeddus fel cam hollbwysig i drechu tlodi.

Ymrwymodd Ardiana Gjini, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddefnyddio’r diffiniad o ‘atal’ y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a thîm y comisiynydd, i fod yn safle peilot i fapio eu gwariant ataliol.

Siaradodd Syr Michael Marmot yn y digwyddiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru gyfan ddod yn rhanbarth Marmot – sy’n golygu ymrwymo i fynd i’r afael ag annhegwch drwy weithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd.

Siaradodd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd o Gyngor Sir Caerfyrddin am y camau y mae Sir Gaerfyrddin yn eu cymryd ar hinsawdd a natur, gan gynnwys ymagwedd newydd tuag at dorri porfa ar gyfer pryfed peillio a neilltuo ffermydd cyngor i dyfu llysiau.

Rhoddodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, drosolwg o rôl y sector preifat yn y dasg o ddarparu dyfodol mwy cynaliadwy. Siaradodd yr Athro Emmanuel Ogbonna CBE, Athro Rheolaeth a Threfniadaeth, Ysgol Busnes Caerdydd, am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru a’i rôl ganolog yn y dasg o sicrhau bod Cymru fwy cyfartal yn effaith greiddiol pob cam gweithredu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Roedd lleisiau ifanc yn cynnwys Saffron Rennison, Swyddog Gweithredol Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Chyn-fyfyrwraig Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, a drafododd fel yr oedd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwaith, yn cynnwys eirioli dros well cynrychiolaeth o blith menywod a phobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn pêl-droed.

Dywedodd Katie Palmer, Penaeth Synnwyr Bwyd Cymru:

“Yn ei hanfod, mae Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn ymwneud â chael llysiau lleol wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy i ysgolion i ddod ậ bwyd maethlon i blant drwy eu prydau ysgol. Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen inni adeiladu ein sylfaen gyflenwi ein hunain, gan ddod â manteision i gymunedau lleol a lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr lleol â chyfanwerthwyr lleol a meithrin cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.”

Dywedodd Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae cyflog byw yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl; mae’n darparu safon byw gweddus ac yn galluogi gweithwyr i gynilo ar gyfer y dyfodol. Rwy’n annog pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru i gymryd y cam hwn tuag at achrediad fel y gallwn lunio economi ar lefel lleol a chenedlaethol o gwmpas gwaith teg, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Bydd y 50 argymhelliad yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu Llywodraeth Cymru a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i wella bywydau yng Nghymru. Wythnos ar ôl cyhoeddi’r adroddiad, rwyf eisoes yn gweld ymrwymiadau o bwys i fy ngalwadau ac rwy’n annog mwy o gyrff cyhoeddus i ymgofrestru – gan gynnwys y 10 cyngor sydd eto i wneud ymrwymiad i ragor o lysiau ar blatiau cinio plant.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o weithredu ar adferiad byd natur, mwy o ymgyfraniad gan gymunedau mewn llunio polisi, a chyllidebau wedi’u clustnodi i ddatrys problemau cyn iddynt ddigwydd, cynllun bwyd cenedlaethol a chynllun Cyflog Byw go iawn gan bob corff cyhoeddus o fewn dwy flynedd.”

Roedd Hannah Jones, eiriolwr cymdeithasol ac amgylcheddol a Phrif Swyddog Gweithredol ymadawol Gwobr Earthshot yn brif siaradwraig.

Mae Gwobr Earthshot yn wobr ac yn blatfform a sefydlwyd gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog William a’r Sefydliad Brenhinol yn 2020 i amlygu, a dod o hyd i ddatrysiadau a fedr helpu i atgyweirio ac adfywio’r blaned yn y degawd hwn.

Darllenwch Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Astudiaeth achos: Llysiau Cymru mewn Ysgolion

Mae Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn brosiect peilot sy’n cael ei gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n ceisio cael mwy o lysiau Cymreig organig i brydau bwyd ysgolion cynradd ledled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Castell Howell, Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn ogystal â nifer o dyfwyr, mae’n adeiladu ar yr ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn oed ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu hwn, lle bo modd, yn dod oddi wrth gyflenwyr lleol.

Ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran o lysiau y pen o’r boblogaeth sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru; mae gan Llysiau Cymru mewn Ysgolion y potensial i gynyddu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Dechreuodd Synnwyr Bwyd Cymru archwilio’r posibilrwydd o gaffael llysiau a gynhyrchwyd yn lleol gyda ‘Peilot Courgette’ – prosiect peilot a oedd yn cynnwys un tyfwr ac un cyfanwerthwr a ddarparodd bron i dunnell o gourgettes i ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn ystod Bwyd a Hwyl yn ystod haf 2022.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, datblygodd fel y cam cyntaf o weithio gyda thri thyfwr ar draws ardaloedd tri awdurdod lleol gyda chefnogaeth cydlynwyr o’r partneriaethau bwyd lleol yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Mynwy. Erbyn diwedd 2024, roedd Llysiau Cymru mewn Ysgolion yn gweithredu ar draws saith ardal awdurdod lleol yng Nghymru gydag wyth o dyfwyr.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Synnwyr Bwyd Cymru adroddiad a ddywedodd y gallai tua 25% o’r holl lysiau a weinir mewn ysgolion ledled Cymru fod yn organig erbyn 2030 gyda’r cynllunio a‘r buddsoddi iawn mewn seilwaith, ac y gallai cynnydd o 3.3c y pryd y dydd gan Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru alluogi cynnwys dau ddogn o lysiau organig lleol mewn prydau ysgol yn dymhorol.