Food Cardiff loading now

Uncategorized @cy

Fis nesaf, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob rhan o’r ddinas ar gyfer cyfarfod Haf rhwydwaith Bwyd Caerdydd.

Mae astudiaeth gwyddoniaeth dinasyddion wedi canfod bod 71% o oergelloedd cartrefi a brofwyd yn gweithredu uwchlaw’r tymheredd diogel a argymhellir o 5°C.

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd i’r ddinas ym mis Medi ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol er mwyn eu helpu i gymryd rhan.

Mae Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol Bwyd Caerdydd yn newid, a hynny er mwyn adlewyrchu cwmpas ac amrywiaeth y prosiectau y mae’n eu cefnogi. Enw’r grŵp bellach yw Cydweithfa Bwyd Cymunedol Caerdydd.

Mae Pettigrew Bakeries wedi mynd o nerth i nerth ers agor ei safle cyntaf gyferbyn â Pharc Fictoria, ac mae bellach yn gweithredu o dri safle ar draws y brifddinas, yn ogystal â masnachu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a gweithredu fel cyfanwerthwr hefyd.

Mae rhaglen beilot newydd wedi’i lansio yng Nghaerdydd sy’n ceisio sicrhau bod bwyd iach sy’n dda i’r blaned yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb – yn enwedig y rhai sy’n wynebu incwm isel ac anghydraddoldebau iechyd.

Mae Belu, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy (CBC), wedi lansio canllaw newydd ar gynaliadwyedd i fusnesau bach.

Mae Bwyd Caerdydd a Bwyd y Fro wedi lansio canllaw newydd ar gyfer Caffael Bwyd Cynaliadwy yn y sector cyhoeddus. Nod y canllaw yw helpu cyrff cyhoeddus i gymryd camau mawr tuag at system fwyd fwy cynaliadwy ac iach i gefnogi cynllun Symud Mwy Bwyta’n Iach Cymru.

Ddydd Iau, 9 Tachwedd, cymerodd Bwyd Caerdydd ran mewn Uwchgynhadledd Llysiau, wedi’i chynnal gan Synnwyr Bwyd Cymru yn Yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau’r fenter Pys Plîs yng Nghymru.

Yma, mae Laure yn rhannu tri o’r ryseitiau y gwnaeth eu harddangos yn ystod Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd er mwyn i chi roi cynnig arnynt gartref.

Tua diwedd y mis, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob cwr o’r ddinas ar gyfer cyfarfod olaf rhwydwaith Bwyd Caerdydd eleni!

Dyma rai o uchafbwyntiau Gŵyl yr Hydref Bwyd Da Caerdydd, yn ôl y grwpiau bwyd, tyfu a chymunedol a drefnodd y digwyddiadau.