Mae menter sy’n anelu at wneud ffrwythau a llysiau iach sy’n dda i’r blaned yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bawb – yn enwedig y rhai sy’n wynebu incwm isel ac anghydraddoldebau iechyd – yn ehangu wrth iddi ddechrau ar gam nesaf ei datblygiad.
Ar ôl cynllun peilot llwyddiannus gydag 20 o gyfranogwyr, bydd ail gam menter Cerdyn Planed Caerdydd yn ehangu i 120 o gyfranogwyr, a bydd gan bob un gredyd wythnosol o £11 y gallant ei wario ar gynnyrch ffres yn unrhyw un o’r marchnadoedd ffermwyr sy’n cymryd rhan ledled Caerdydd.
Gall trigolion cymwys yng Nghaerdydd sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen Cerdyn Planed wneud cais ar-lein nawr. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Cerdyn Planed y gellir ei ddefnyddio i brynu pethau ym Marchnadoedd Ffermwyr y Rhath neu Lan-yr-afon Caerdydd. Ychwanegir credyd o £11 yr wythnos i’r cerdyn, y gellir ei wario ar ffrwythau a llysiau ffres.
Mae’r fenter Cerdyn Planet wedi’i chynllunio i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd a gwella mynediad at opsiynau bwyd iach a chynaliadwy i bobl sydd ar incwm isel. Drwy roi cymorth ariannol i gyfranogwyr siopa mewn marchnadoedd ffermwyr, nod y rhaglen yw cynyddu’r defnydd o gynnyrch sy’n dda i’r blaned, gan gefnogi ffermwyr lleol ar yr un pryd.
O ran y cymwysterau ‘da i’r blaned’, nod y cynllun yw hyrwyddo ffrwythau a llysiau sy’n cael eu tyfu mewn ffordd nad yw’n niweidio’r amgylchedd gan ddefnyddio dulliau nad ydynt yn defnyddio cemegion niweidiol fel plaladdwyr.
Esboniodd Carol Adams, rheolwr menter ym Marchnad Ffermwyr Caerdydd:
“Rydym yn gyffrous i lansio’r ail gam hwn o’r prosiect Cerdyn Planed ac ymestyn ei gyrhaeddiad ymhellach i’r gymuned, gan helpu trigolion yng Nghaerdydd i wneud dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy.
“Mae wedi bod yn wych dechrau chwalu rhai o’r rhwystrau canfyddedig sy’n gysylltiedig â siopa mewn marchnadoedd ffermwyr, a dangos i bobl y manteision o allu prynu’n uniongyrchol gan y tyfwr. Mae nid yn unig yn gystadleuol o ran pris gyda’r archfarchnad, ond gallwch hefyd reoli faint rydych chi’n ei brynu yn haws a chael cyngor arbenigol gan gynhyrchwyr ar sut i goginio a storio ffrwythau a llysiau ffres.”
Mae masnachwyr a thyfwyr sy’n cymryd rhan ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd yn cynnwys Paul’s Organic Veg, Coed Organic, a Slad Valley Mushrooms.
Gofynnir i gyfranogwyr roi cynnig ar y Cerdyn Planed dros gyfnod o chwe mis pan ofynnir iddyn nhw roi adborth trwy grwpiau ffocws, arolygon neu gyfweliadau. Bydd y tîm Cerdyn Planed yn defnyddio’r dystiolaeth o’r cynlluniau peilot i wneud argymhellion ar gyfer newid polisi cenedlaethol a lleol.
Mae cynllun peilot Caerdydd wedi cael ei gydlynu drwy’r rhwydwaith Bwyd Caerdydd sy’n cysylltu pobl a phrosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas. Fe’i hariannwyd gan Bridging the Gap, partneriaeth rhwng Sustain, Growing Communities, The Alexandra Rose Charity, Nourish NI, Nourish Scotland a Synnwyr Bwyd Cymru.
Ychwanegodd cydlynydd Bwyd Caerdydd, Pearl Costello:
“Mae Planed Caerdydd yn enghraifft wych o genhadaeth Bwyd Caerdydd ar waith – helpu i roi bwyd da wrth galon cymunedau cryf, iach a gwydn. Fel rhan o fudiad bwyd da cryf yn y ddinas, rydym yn falch o fod wedi dod â’r partneriaid yn y prosiect hwn ynghyd a chefnogi datblygiad y prosiect peilot, a gynhyrchwyd drwy ddigwyddiad ‘Big Ideas’ Bridging the Gap a gweithdy cyd-gynhyrchu a gynhaliwyd gennym. Edrychwn ymlaen at adolygu’r hyn y gellir ei ddysgu o’r cynllun peilot ynghylch cefnogi mynediad at fwyd cynaliadwy iach, a sut y gallwn ni fel partneriaeth adeiladu ar y ddealltwriaeth honno.
“Gwnaeth y cynllun peilot Cerdyn Planed hefyd gyfrannu at weld Caerdydd yn cyflawni ei statws Lle Bwyd Cynaliadwy Aur, gan ddangos cryfder y mudiad bwyd da yn y ddinas a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i wneud dewisiadau bwyd sy’n dda i’r hinsawdd yn fwy hygyrch a fforddiadwy.”
Dylai pobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn ail gam y prosiect fynd i www.riversidemarket.org.uk/planet-card.