Food Cardiff loading now

Uncategorized @cy

Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn gyda rhaglen o ddigwyddiadau bwyd wedi’u trefnu ar draws y ddinas y mis hwn i arddangos y mudiad bwyd da yn y ddinas.

Mae Carol Adams yn Gyfarwyddwr Food Adventure Social Enterprise Limited, ac yn sylfaenydd Back To Our Roots; prosiect sy’n dysgu pobl yng Nghymru sut i dyfu llysiau fel ocra a chalalŵ (callaloo).
Yn ein blog diweddaraf, mae Carol yn dweud wrthym pam bod hyn yn bwysig iddi

Elusen genedlaethol sy’n ceisio dileu tlodi bwyd, unigrwydd a gwastraff bwyd o bob cymuned yw FoodCycle. Fe gawson ni sgwrs gyda Suzanne Waring, Rheolwr Rhanbarthol FoodCycle yng Nghymru, i ddarganfod mwy.

Mae Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn ym mis Medi, ac mae Bwyd Caerdydd yn cynnig grantiau i grwpiau cymunedol ddathlu cyfoeth yr hydref a hyrwyddo bwyd tymhorol sy’n gyfeillgar i’r blaned.

Lansiwyd y rhaglen Pontio’r Bwlch i fynd i’r afael â’r her hon a chreu ffyrdd newydd o alluogi cymunedau sydd ag incwm isel a chymunedau ymylol i gael gwell cyfle i fwyta bwyd sy’n fforddiadwy, yn iach, ac yn llesol i’r blaned.

Ddiwedd y mis, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob cwr o’r ddinas ar gyfer cyfarfod rhwydwaith nesaf Bwyd Caerdydd (rhwng 5 a 7pm ar 17 Gorffennaf)

Nod Diwrnod Ail-lenwi’r Byd, a gynhelir yn flynyddol ar 16 Mehefin, yw creu gweledigaeth amgen ar gyfer y dyfodol a chyflymu’r trawsnewidiad oddi wrth blastig untro a thuag at systemau ail-lenwi ac ailddefnyddio.

Mae Gwesty Clayton, Caerdydd yn ymuno â Bwyd Caerdydd i helpu i ariannu ei Rwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol, sy’n cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar fwyd neu sydd dan bwysau oherwydd costau byw.

Am y tro cyntaf ers 2019 a’r pandemig 2019, cynhaliwyd cynhadledd wyneb-yn-wyneb Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, a hynny dros ddeuddydd heulog yng Ngholeg St. Catherine, Rhydychen.

Y mis diwethaf, ar y 10fed o Fawrth, daeth 30 o unigolion, sefydliadau a busnesau i gyfarfod chwarterol rhwydwaith Bwyd Caerdydd. Fe wnaeth ein cyfarfod rheolaidd ddwyn ynghyd amrywiaeth eang o brosiectau bwyd cymunedol, cynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr bwyd, deietegwyr, addysgwyr a swyddogion y sector cyhoeddus o bob cwr o’r ddinas.

Mae ymgyrch newydd yn gobeithio rhoi Caerdydd ar y trywydd i fod yn un o’r lleoedd bwyd mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Gyda chymorth cyllid o Gronfa Uchelgais y Ddinas Caerdydd Am Byth rydym yn cefnogi busnesau i ‘addunedu’ i gymryd camau a fydd yn helpu Caerdydd i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy; ac rydym wedi creu’r pecyn cymorth hwn er mwyn gwneud y broses yn symlach byth.

Nid dim ond busnesau bwyd neu fusnesau lletygarwch sy’n gallu creu effaith – yma cawn glywed gan Gareth Cartwright, rheolwr cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol banc Hodge yng nghanol y ddinas.