
CYMRYD RHAN
Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a thyfwyr unigol, a’r amgylchedd hefyd.
Mae ein strategaeth uchelgeisiol i greu rhwydwaith bwyd da cryf yn y ddinas wedi arwain at Gaerdydd yn dod yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.
Mae angen i bawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Chaerdydd gymryd rhan.

YMUNWCH Â’R MUDIAD
Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr, felly cymerwch ran.
Y NEWYDDION DIWEDDARAF

Yn galw pob caffi: trowch eich gwastraff coffi yn rhywbeth sy’n cael effaith dda ar y gymuned gyda grounds for good
Mae’r cynllun ailgylchu yn enghraifft bwerus o sut y gall busnesau integreiddio cyfrifoldeb amgylcheddol ac effaith gymdeithasol – a nawr mae’r cwmni’n gwahodd mwy o leoliadau i ymuno â’r mudiad.

Rydym yn recriwtio: Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Caerdydd
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Bwyd Caerdydd gan fod ei strategaeth uchelgeisiol i greu rhwydwaith bwyd da cryf yn y ddinas yn golygu bod Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar.

Archwilio treftadaeth Gymreig o ran bwyd a thyfu
Ymunwch â ni i archwilio dimensiynau treftadaeth Gymreig o fwyd a thyfu, gyda siaradwr gwadd arbennig Adam Alexander. Bydd awdur The Seed Detective a