Erbyn hyn mae dros 2000 o lefydd i fwyta, yfed a siopa sy’n defnyddio llai o blastig wedi eu cofnodi ledled Cymru yn ôl y grŵp amgylcheddol, City to Sea, sy’n rhedeg yr Ymgyrch Ail-lenwi. Cyhoeddwyd y garreg filltir i nodi Diwrnod Ail-lenwi’r Byd (16 Mehefin) – ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus fyd-eang i atal llygredd plastig a helpu pobl i fyw gyda llai o wastraff.
Nod Diwrnod Ail-lenwi’r Byd, a gynhelir yn flynyddol ar 16 Mehefin, yw creu gweledigaeth amgen ar gyfer y dyfodol a chyflymu’r trawsnewidiad oddi wrth blastig untro a thuag at systemau ail-lenwi ac ailddefnyddio. Mae’r ymgyrch yn dwyn ymgyrchwyr, busnesau cynaliadwy, a sefydliadau ynghyd o bob cwr o’r byd, i dynnu sylw at atebion i’r argyfwng plastig a helpu unigolion i fyw gyda llai o wastraff.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dod yn “Gyrchfan Ail-lenwi” swyddogol sy’n gweithio gyda City to Sea, ac mae cangen Gymreig yr ymgyrch Ail-lenwi, Ail-lenwi Cymru, wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru sydd, yn ei thro, wedi addunedu mai Cymru fydd y “Genedl Ail-lenwi” gyntaf.
Dywedodd Jane Martin, Pennaeth Datblygu City to Sea, “Mae hon yn garreg filltir enfawr – erbyn hyn mae dros 2,000 o fannau ail-lenwi yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i ehangu’r cynnig ail-lenwi ac ailddefnyddio. Mae hyn yn golygu p’un a ydych yn cerdded llwybrau’r arfordir, yn siopa yng nghanol dinas Caerdydd neu’n teithio i’r gwaith – dydych chi byth yn bell o rywle i ail-lenwi eich potel ddŵr, cwpan goffi neu focs bwyd.”
Aeth ymlaen i ddweud, “Nod Diwrnod Ail-lenwi’r Byd yw cael pobl i drafod y broblem ac, yn allweddol, i dynnu sylw at y datrysiadau a helpu pobl i weithredu i leihau gwastraff. Efallai na fydd ein newidiadau bach ni yn ymddangos fel llawer ar eu pen eu hunain, ond gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr, gan ddangos i frandiau, busnesau a llywodraethau mawr ein bod am weld, ac angen gweld camau’n cael eu cymryd ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng plastig.
Mae angen i ni newid yn gyflym o’n diwylliant deunydd tafladwy, untro i ddyfodol mwy cynaliadwy, cylchol, gydag ailddefnyddio ac ail-lenwi wrth ei wraidd. Y newyddion da yw bod gennym eisoes yr offer sydd eu hangen arnom i newid y byd.”
Yn y gorffennol, gweithiodd City to Sea gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i lansio Pecyn Cymorth Hydradu newydd fel rhan o’u Rhaglen Gweithleoedd Iach. Mae’r pecyn cymorth hydradu yn adnodd hawdd ei ddefnyddio i gyflogwyr, nid yn unig er mwyn sicrhau bod eu gweithwyr yn cadw’n iach ac yn cael digon o ddŵr, ond hefyd i ysgogi newid ymddygiad ynghylch defnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio yn y gweithle a chael effaith gadarnhaol ar eu metrigau plastig untro.
Mae City to Sea hefyd wedi cael cyllid gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i helpu i leihau llygredd plastig o amgylch Caerdydd dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd yr ymgyrch estynedig yn cynyddu nifer y lleoliadau a’r mathau o fusnesau a restrir ar yr ap yng Nghaerdydd, gan helpu i sicrhau mai ailddefnyddio ac ail-lenwi yw’r norm cymdeithasol newydd. Bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio’r ap i ganfod lle i ail-lenwi popeth o’u potel ddŵr, cwpan coffi, a bocs bwyd, i gynhyrchion glanhau’r tŷ a phethau ymolchi.
I ddathlu Diwrnod Ail-lenwi’r Byd, gallwch wneud eich adduned eich hun i roi’r gorau i ddefnyddio deunyddiau untro, lleihau llygredd plastig a #dewisailddefnyddio. #dewisailddefnyddio. Cofrestrwch gyda Bwyd Caerdydd (neu mewngofnodwch) a gwnewch eich Adduned #BwydDaCaerdydd heddiw yn: https://foodcardiff.com/cy/addunedu/.