Food Cardiff loading now
Spit and Sawdust

Ymunwch â Chyfarfod Rhwydwaith Bwyd Caerdydd ar gyfer mis Gorffennaf ym Mharc Sgrialu Spit & Sawdust

Ddiwedd y mis, fe’ch gwahoddir i ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau o bob cwr o’r ddinas ar gyfer cyfarfod rhwydwaith nesaf Bwyd Caerdydd.

Cynhelir y cyfarfod rhwng 5 a 7pm ar 17 Gorffennaf, a gallwch gofrestru i gael lle yma – mae am ddim ac nid oes rhaid i chi fod wedi mynychu unrhyw gyfarfod blaenorol.

Y tro hwn, cawn ein croesawu gan y tîm anhygoel ym Mharc Sgrialu Spit & Sawdust, Y Sblot. Yn dilyn adborth o’r digwyddiad diwethaf, thema fras y digwyddiad yw bwydo plant a phobl ifanc, a dyna pam ein bod wedi dewis rhoi sylw i’r lleoliad gwych hwn sy’n cael ei redeg ar ffurf menter gymdeithasol nid-er-elw (sy’n golygu bod yr holl arian yn cael ei roi yn ôl i’r sefydliad er mwyn iddo allu ariannu prosiectau’n ymwneud â sgrialu, celf a bwyd).

Yn ogystal â chynnig sesiynau sgrialu i blant ac oedolion o bob oedran, mae bwydlen y caffi ar safle Spit & Sawdust yn cynnig bwyd cartref, yn lle’r ‘bwyd brys’ arferol sy’n aml ar gael i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Gan ddefnyddio cymaint o gyflenwyr lleol â phosibl sy’n cynnig cynnyrch organig/moesegol (megis Fferm Penrhiw, Fferm Trealy, ac Inner City Pickle) mae’r prisiau ar fwydlen Spit & Sawdust yn fforddiadwy hefyd, gyda chost diodydd poeth oddeutu £1. Mae digon o ddewis o fwyd cartref i feganiaid a llysieuwyr hefyd.

Dewch i gael gwybod mwy am y lleoliad hwn a’i werthoedd yng nghyfarfod nesaf Bwyd Caerdydd; bydd Spit & Sawdust yn darparu canapés, a bydd amrywiaeth o ddiodydd (gan gynnwys diodydd ysgafn a chwrw o fragdai lleol) ar gael yn y bar. Mae croeso i blant a theuluoedd, a bydd y parc sglefrio ar agor i unrhyw un sydd awydd rhoi cynnig arni!

Yn y digwyddiad hefyd cynhelir Trafodaeth Banel a sesiwn Holi ac Ateb gyda 3-4 pherson ifanc ar y pwnc Bwyd Da.

Os oes gennych syniad, prosiect, digwyddiad neu ddiddordeb mewn bwyd da yr hoffech sôn amdano yn ein cyfarfod nesaf, cofiwch gofrestru yma i gael lle am ddim.


Cyn cyfarfod nesaf Bwyd Caerdydd, beth am fanteisio ar y cyfle i ddarllen Strategaeth Bwyd Da Caerdydd 21 -24, i gael gwybod mwy am ein gwaith hyd yma? Dros y naw mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu a chael effaith amlwg ar y ddinas gyfan, ac yn 2021, derbyniodd y ddinas statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy (y lle cyntaf yng Nghymru a dim ond un o chwe lle yn y DU). Gallwch gael mwy o wybodaeth yma.