Food Cardiff loading now

Ein cyflawniadau

2014

Sefydlu Partneriaeth Bwyd Caerdydd – lansio Adduned Siarter Fwyd Caerdydd a’r Adduned Bwyd Teg.

2015

Bwyd Caerdydd yn cyflwyno pysgod sy’n amgylcheddol gynaliadwy yn y ddinas – Ymgyrch a arweiniodd yn y pen draw at ddarparu pum miliwn o brydau pysgod cynaliadwy yn cael eu gweini ar draws y brifddinas bob blwyddyn (ac ymrwymiad i holl brydau GIG Cymru ddefnyddio dim ond pysgod sydd wedi’u hardystio fel rhai cynaliadwy).

2016

Bwyd a Hwyl. Lansio rhaglen gwella gwyliau’r haf – Rhaglen amlasiantaeth, sydd wedi ennill sawl gwobr, gyda’r nod o ddarparu prydau o ansawdd da, sgiliau maeth, addysg chwaraeon a gweithgareddau i wella gwyliau’r haf i blant mewn ardaloedd o angen yng Nghymru. Datblygwyd a threialwyd Bwyd a Hwyl yng Nghaerdydd yn 2015 ac ers hynny mae wedi’i gyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru, dan oruchwyliaeth CLlLC, gyda chefnogaeth Bwyd Caerdydd.

2017

Mae Bwyd Caerdydd yn helpu i ddatblygu’r fenter ‘Pys Plîs’ – O dan arweiniad Bwyd Caerdydd yng Nghymru, mae’r fenter Pys Plîs yn annog pob sefydliad sy’n ymwneud â chynhyrchu, cyflenwi a bwyta prydau bwyd i ymgyrchu i roi mwy o lysiau ar ein platiau, er mwyn gwella iechyd a llesiant y genedl. Arweiniodd hyn yn y pen draw at ffurfio Dinasoedd Llysiau. Rhagor o wybodaeth.

2018

Cynhaliwyd dwy gynhadledd fwyd y DU – Fe’u cynhaliwyd yng Nghaerdydd i gydnabod y ffaith bod y ddinas yn arwain y gwaith o ddatblygu atebion yn ymwneud â’rr system fwyd leol a’r rôl y mae’n ei chwarae wrth lywio polisi cenedlaethol.

2018

Lansio Meithrin Gwydnwch: Cynllun Diogelwch Bwyd – Cynllun pum mlynedd i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd yn y ddinas, gan adeiladu ar lwyddiant prosiectau sy’n bodoli eisoes fel y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP).

2019

Cefnogi ‘Eich Pantri Lleol’ cyntaf yng Nghymru – Rhwydwaith o bantrïoedd, cwmnïau cydweithredol ac oergelloedd cymunedol sy’n ehangu ledled y ddinas. Rhagor o wybodaeth.

2019

Cymeradwyodd Cyngor Caerdydd Strategaeth Fwyd Caerdydd – daeth Caerdydd yn un o gynghorau cyntaf y DU i gael ei strategaeth fwyd ei hun; dylanwadwyd ar hyn gan Bwyd Caerdydd, ac mae’r cynllun yn cyfrannu at uchelgeisiau Lleoedd Bwyd Cynaliadwy’r ddinas.

2020

Cydhwylusodd Bwyd Caerdydd Ymateb Bwyd Covid-19 y ddinas – Chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gydgysylltu mynediad at fwyd a dosbarthu 20,000 o blanhigion llysiau i gymunedau ledled y ddinas.

2021

Penodwyd Bwrdd Strategaeth Bwyd Caerdydd a lansiwyd y Strategaeth Bwyd Da ar gyfer y ddinas – Mae’r Strategaeth Bwyd Da tair blynedd newydd ledled y ddinas wedi’i chyd-gynllunio i adlewyrchu diwylliant bwyd unigryw Caerdydd, ei chymunedau amrywiol a busnesau annibynnol Yn y cyfamser, cafodd Bwrdd Bwyd Caerdydd ei sefydlu i ganolbwyntio ar gyfeiriad strategol y bartneriaeth, a chynnig arweiniad ar sut i ddatblygu a gwella ei llwyddiant ymhellach.

2021

Caerdydd yn cael statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – Y lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i ennill y wobr fawreddog sy’n cydnabod gwaith arloesol y ddinas o ran hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy. Rhagor o wybodaeth am Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yma.

2022

Caerdydd yn dechrau ar ei thaith tuag at ennill statws Aur – Mae Bwyd Caerdydd yn troi ei olygon at helpu Caerdydd i ddod yn un o’r Lleoedd Bwyd Cynaliadwy gorau yn y DU.

2022

Bwyd Caerdydd yn cydlynu rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda dros 15 o bartneriaid i ddarparu dull aml-faes o fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd gan adeiladu gwytnwch prosiectau bwyd cymunedol. Mae’r gwaith hwn yn helpu i adeiladu’r achos dros fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn Partneriaethau Bwyd Traws-Sector ledled Cymru gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

2023

Partneriaeth Bwyd Caerdydd yn cydlynu darpariaeth leol o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysglion Cymru yn ystod haf 2023. Dyma gynllun peilot i ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd mewn ysgolion, gan adeiladu ar ganfyddiadau’r cynllun peilot courgette a gyflwynwyd yn 2022.