Food Cardiff loading now

Bwyd Caerdydd yn gweithio i gael mwy o lysiau o Gymru i ysgolion yng Nghymru

Mae Bwyd Caerdydd yn cefnogi cynllun peilot i ddatblygu cadwyni cyflenwi agroecolegol lleol newydd mewn ysgolion – gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau. Mae cynllun peilot Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion Cymru yn cael ei arwain gan Synnwyr Bwyd Cymru a’i gefnogi gan gyllid Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, ac mae partneriaid allweddol yn cynnwys Partneriaethau Bwyd, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ardaloedd Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy ynghyd â’r cyfanwerthwr, Castell Howell, nifer o dyfwyr brwdfrydig ac adran Arddwriaeth Cyswllt Ffermio.

Dechreuodd y peilot presennol hwn ym mis Ebrill 2023 a bydd yn parhau tan wanwyn 2024. Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau’r ‘peilot courgette’ a ddatblygwyd gan Synnwyr Bwyd Cymru a chydlynwyd gan Bwyd Caerdydd o ganlyniad i adduned Pys Plîs Castell Howell i gynyddu’r nifer o lysiau lleol sy’n mynd i mewn ysgolion Bu’r ‘peilot courgette’ yn gweithio gydag aelodau Bwyd Caerdydd sef Blas Gwent, Adran Arlwyo Addysg Cyngor Caerdydd, tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn ogystal â Castell Howell.

Bydd astudiaeth beilot Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion Cymru yn ein galluogi i brofi’r cwestiynau canlynol:

  1. A fedrwch chi ailadrodd y model courgette mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill ac yn ystod tymor yr ysgol?
  2. Sut y gellid trefnu cadwyn gyflenwi llysiau agroecolegol Cymru ar draws daearyddiaethau?
  3. A yw’r Cynllun Buddsoddi mewn Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy (bwlch pris rhwng organig confensiynol a lleol) yn hyfyw a/neu a oes mecanweithiau ariannol eraill i bontio’r bwlch?
  4. Beth yw’r goblygiadau i Safonau Bwyd ysgolion ac addysg bwyd mewn ysgolion?

Yn ystod y peilot, bydd Synnwyr Bwyd Cymru a thîm y prosiect hefyd yn:

  • treialu a datblygu mecanwaith ar gyfer cyflenwi cynnyrch a dyfir mewn modd agro-ecolegol Cymreig (Organig neu wedi’i drawsnewid yn Organig) i ysgolion trwy’r cyfanwerthwr Castell Howell
  • edrych i ddatblygu llwybrau amgen i’r farchnad a datblygu cynnyrch newydd ar gyfer cynnyrch lleol (trwy gyllid Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru)
  • gweithio ar safonau Archwilio pwrpasol i alluogi tyfwyr ar raddfa fach i gyflenwi i’r sector cyhoeddus
  • datblygu ac ehangu cadwyn gyflenwi’r tyfwyr o 1 yn y peilot courgette, i 3 ar gyfer Bwyd a Hwyl 2023, i 5 ar gyfer tymor yr hydref 2023 – ac yn edrych i gynnwys mwy yn y dyfodol, yn amodol ar barhad y peilot
  • profi ymweliadau fferm ysgol a sefydlu unrhyw rwystrau i ysgolion a thyfwyr
  • datblygu gweithgareddau llysiau yn ymwneud â llysiau tymhorol Cymreig gan gysylltu fferm i ysgol ac ysgol i gartref.
  • archwilio model economaidd gan gynnwys elw cymdeithasol ar fuddsoddiad

Mae adroddiad o ganfyddiadau terfynol y prosiect yn debygol o gael ei gyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2024 ond yn y cyfamser rydym yn bwriadu parhau i adeiladu ar y cynnydd hyd yma gan ddechrau cynllunio ym mis Tachwedd ar gyfer tymor tyfu 2024.

mis Tachwedd ar gyfer tymor tyfu 2024. Os hoffech ddysgu mwy am y prosiect mwy neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan, e-bostiwch foodsensewales@wales.nhs.uk